Thursday, December 28, 2017

Rhagweld 2018 - rhan 4

Theresa May.  Flynyddoedd maith yn ol roedd yna swydd yn India oedd gyda'r gwaethaf yn y Byd.  Disgwylid i ddeilydd y swydd dreulio ei ddiwrnod gyda'i ddwylo ynghanol afon o garffosiaeth agored yn chwilio am rhywbeth - unrhyw beth - o werth ynghanol y budreddi -  pres, darn o fetel, potel - unrhyw beth. Mae swydd bresenol Theresa May yn ymdebygu i'r swydd anymunol yma mewn rhai ffyrdd.

Mae'r greadures  wedi goroesi hyd yn hyn oherwydd nad oes neb arall eisiau ei swydd yn yr amgylchiadau sydd ohonynt.  Pan ddaw'n glir mai derbyn cyfarwyddiadau gan yr UE fydd y 'negydu' yn y flwyddyn newydd - yn union fel y 'negydu' sydd eisoes wedi mynd rhagddo, mi fydd yna ychydig o gicio a strancio gan Rees Mogg, Duncan Smith ac ati, a bydd y DUP yn chwythu ffiws os bydd ffin rhyngwladol yn cael ei bloncio ynghanol y Mor Celtaidd.  Ond yn y diwedd bydd y DU yn dilyn cyfarwyddiadau'r UE a bydd y setliad y byddwn yn ei gael yn rhywbeth gwaeth - ac efallai gwaeth o lawer - na'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd.  Y rheswm am hynny ydi bod pawb yn deall erbyn hyn pwy sydd efo'r grym, a phwy nad oes ganddynt unrhyw rym - ond 'dydi'r sawl sydd wedi'n arwain i lle'r ydym ar hyn o bryd byth, byth am gyfaddef hynny. Byddant yn derbyn yr hyn y byddant yn ei gael yn union fel y gwnaethant yn gynharach y mis hwn.

Wedi'r setliad, ac wedi i'r DU adael yr UE bydd y gem yn newid - mi fydd rhaid i rhywun gymryd y bai am wneud smonach o bethau - a joban Theresa May fydd honno.  Bydd yn goroesi 2018 am resymau rydym eisoes wedi cyffwrdd a nhw, a bydd yn goroesi Brexit.  Wedyn - yn ystod hydref 2019 yn ol pob tebyg bydd yn cael ei hel i fyny'r planc ac yn cael ei lluchio i'r siarcod a bydd rhywun megis Jacob Rees Mogg yn cymryd ei lle.  Gallwn wedyn ddisgwyl llwyth o gimics bach diwerth fel y pasport glas.  Gall y system addysg ddisgwyl y pleser o gyflwyno dulliau mesur imperial i'r plantos.  

No comments: