Sunday, October 29, 2017

Catalonia a'r gyfraith

Mae'r ffaith bod llywodraeth Prydain ac arweinyddiaeth yr UE yn cefnogi llywodraeth Sbaen yn eu anghydfod efo llywodraeth Catalonia wedi ei seilio ar y ddadl bod llywodraeth Sbaen yn gweithredu'n unol a'r gyfraith tra bod llywodraeth Catalonia yn gweithredu'n groes i'r gyfraith.  Tra bod cymhelliad o'r fath yn ddealladwy i'r graddau bod y sawl sy'n llunio cyfreithiau am fod a pharch mawr tuag at gyfreithiau, mae hefyd yn broblematig.  
Mae ffiniau cenedlaethol yn newid trwy'r amser ac mae gwladwriaethau'n mynd a dod.  Mae yna newidiadau sylweddol iawn wedi bod mewn ffiniau cenedlaethol yn y gorffennol cymharol agos - yn achos yr Undeb Sofietaidd a'r hen Iwgoslafia er enghraifft.  Roedd yna newidiadau mwy arwyddocaol yng nghanol y ganrif ddiwethaf pan roedd yr hen ymerodraethau Ewropiaidd yn datgymalu. Mae'r newidiadau hyn wedi digwydd yn aml - ond ddim pob tro - yn groes i'r gyfraith gyfredol. 
Petai parchu cyfraith gyfredol yn egwyddor holl orchfygol ni fyddai llawer o'r newidiadau cymdeithasol tros y canrifoedd diwethaf erioed wedi digwydd.
Mae cyfreithiau'r gorffennol yn aml wedi gwneud yr hyn rydym yn ei gymryd yn ganiataol heddiw yn ganiataol.  
Arweiniodd Nelson Mandela fudiad cwbl anghyfreithlon.
Roedd pleidlais i ferched yn anghyfreithlon ar un amser.
Roedd bod yn Gatholig yn anghyfreithlon yn y gorffennol.
Roedd llawer o'r hyn wnaeth Martin Luther King yn anghyfreithlon.
Roedd bod yn hoyw yn anghyfreithlon yn y gorffennol cymharol agos.
Mae rhywun yn cymryd na fyddai arweinyddiaeth yr UE na'r DU yn dadlau na ddylai merched yn Saudi Arabia gael gyrru oherwydd bod hynny'n anghyfreithlon yn y wlad honno hyd yn ddiweddar.  .
Gallwn barhau yn y cywir hwn am amser hir iawn, iawn.  
Mae'r sefyllfaoedd uchod yn aml wedi cael eu newid oherwydd bod pobl yn fodlon torri'r gyfraith er mwyn sicrhau'r newidiadau hynny.  Ac mae llawer o'r hawliau iaith sydd gennym ni heddiw - Sianel Deledu, arwyddion ffordd Cymraeg ac ati wedi dod i fodolaeth oherwydd bod pobl wedi bod yn fodlon torri'r gyfraith er mwyn eu sicrhau.
Yn y pen draw dydi'r ffaith bod rhywbeth yn gyfreithiol ddim yn golygu ei fod yn gyfiawn - y gwrthwyneb sydd yn wir weithiau.  Yr egwyddor o hunan benderfyniad - self determination - ydi'r mater pwysicaf yma - ac mae'n egwyddor i'w choleddu yma - egwyddor sydd fel mae'n digwydd yn greiddiol i'r Cenhedloedd Unedig.
O.N - newydd wedld dadl debyg iawn ar flog penigamp Dylan Llyr.

No comments: