Sunday, September 10, 2017

Heriau'r Blaid tros y blynyddoedd nesaf

Mae gan pob plaid ei phroblemau - neu i fod yn fwy cadarnhaol heriau.  Dydan ni ddim yn gwybod os fydd yna Etholiad Cyffredinol yn y flwyddyn neu ddwy nesaf - ond os bydd y senedd presenol yn cael tymor llawn, etholiadau Senedd Cymru yn 2021 fydd yr etholiad Cymru gyfan nesaf.  Yn fy marn i y canlynol ydi'r prif heriau sy'n ein hwynebu rhwng rwan a 2021.

1). Sut i wahaniaethu'n glir rhyngom ni a phawb arall, ac yn arbennig felly Llafur.  Roedd ethol Corbyn yn arweinydd y Blaid Lafur yn hynod anghyfleus o safbwynt y Blaid.  Dydi hi bellach ddim yn bosibl lleoli'n hunain i'r Chwith i Lafur.  Mae hi fodd bynnag yn bosibl amlygu'r dwr gwyrdd rhyngom ni a Llafur, ac mae'n bosibl gwneud rhywbeth i wahaniaethu ein hunain a gwleidyddiaeth Adain Chwith hen ffasiwn 'top down' Corbyn a'r ffaith nad yw'n deall datganoli.
2). Sut i ddod tros y ffaith bod yna ganfyddiad nad oes gennym y gallu i wireddu'n hamcanion.  Mae hyn yn arbennig o wir am San Steffan?   Roedd yr hyn roedd y Blaid yn ei addo yn 2015 yn eithaf tebyg i'r hyn roedd Llafur yn ei addo yn 2017, ond wnaeth o ddim cynhyrchu'r un lefelau o gefnogaeth newydd o bell ffordd.  Y prif reswm am hynny ydi bod pobl yn credu bod gan Llafur y gallu i weithredu ar eu addewidion pan nad oes gennym ni.  Efallai y gall hyn newid rhyw gymaint os bydd pobl yn mynd i arfer at y syniad o glymbleidio rheolaidd.
3). Mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn cael eu holl newyddion, neu'r rhan fwyaf o'u newyddion gan gyfryngau Seisnig. Dydi'r Blaid prin yn ymddangos yn y cyfryw gyfryngau.  Mae cyfryngau Cymru yn atgyfnerthu'r sefyllfa hon i raddau helaeth oherwydd eu bod yn sefydliadol iawn ac amharod i herio'r sawl sy'n dal grym.  Yn wir mae'n hawdd credu weithiau bod yn well gan y cyfryngau Cymreig feirniadu'r hwrthbleidiau ac yn arbennig felly Plaid Cymru, na herio'r sawl sy'n ymarfer grym.  I'r graddau yna mae yna rhywbeth Dwyrain Ewropiaidd iawn am wleidyddiaeth Cymru.  
4). Fel bron i pob mudiad cenedlaethol mae'n rhaid i'r Blaid apelio at amrediad eang o bobl - pobl sydd yn cytuno ynglyn a'r diwylliant Cymreig a statws cyfansoddiadol Cymru ond sy'n anghytuno ynglyn a materion cymdeithasol ac economaidd eraill.  Mae rheoli hyn yn heriol, ac mae'n nesaf peth i amhosibl plesio pawb.
5). Torri allan o'r Gymru Gymraeg.  Mae hyn yn digwydd i raddau weithiau - ond ddim am hir.  Mae pobl sy'n byw yn yr etholaethau Cymraeg eu hiaith yn llawer mwy tebygol o bleidleisio i'r Blaid - ac mae hynny'n cynnwys pobl sydd ddim yn siarad y Gymraeg ond sy'n byw mewn ardaloedd Cymraeg.  Mae cael caer Orllewinol yn bwysig pan mae perhau'n anodd (cymharer a'r Dib Lems sydd ddim efo demograffig naturiol sy'n eu cefnogi), ond mae apelio yn eang wedi bod yn broblem i'r Blaid am y rhan fwyaf o'i hanes - ac mae'n dal i fod yn broblem.
7). Rydan ni'n gwleidydda mewn ffordd rhy gadarnhaol.   Mae Llafur wedi ennill pob Etholiad Cyffredinol yng Nghymru ers bron i ganrif, mae wedi rheoli'r Cynulliad / Senedd ers sefydlu datganoli ac mae nhw bron yn ddi eithriad yn rheoli mwy o gynghorau na'r un blaid arall ac mae ei haelodau'n britho cyrff cyhoeddus ar hyd a lled Cymru.  Ac eto rydym - fel gwlad - yn agos at waelod bron i pob tabl rhyngwladol - mewn perthynas a gwledydd cyffelyb o leiaf.  Mae gwleidyddiaeth negyddol yn gweithio, ac mae yna lawer iawn, iawn i fod yn negyddol amdano ynglyn a phlaid fwyaf Cymru.

1 comment:

Anonymous said...

Bu'r pwynt cyntaf yn amlwg i nifer o aelodau cyffredin ers y munud yr etholwyd Corbyn. Yn anffodus, aeth arweinyddiaeth Plaid Cymru i mewn i'r etholiad diwethaf yn awchu am 'glymblaid radical' , yn lle ymosod pob gafael ar Y Blaid Lafur Brydeinig.
Mae gormod o fewn y blai yn gweld y Toriaid ac UKIP fel ein unig gelynion, yn hytrach na Sesisnigrwydd a Phrydeindod. Yr oeddent yn gweld Corbyn fel gelyn i'r sefydliad Prydeinig, yn hytrach nac un arall o'i hyrwyddwyr.
Ni chredaf i lawer o genedlaetholwyr sylweddoli dyn mor anwybodus ac analluog yw Corbyn. Mae'n brotestiwr. Dyna'i gyd.