Monday, March 27, 2017

Etholiadau'r cyngor - Powys

Mae'n siwr nad oes yna lawer o flogiadau - na dim arall - lle mae'r geiriau Plaid Cymru a Powys yn ymddangos ar yr un pryd.  Serch hynny mae'n fwy na phosibl y bydd etholiadau cyngor 2017 yn torri tir newydd o safbwynt y Blaid.


Yn hanesyddol cafwyd sawl grwp annibynnol ym Mhowys, gan gynnwys rhai oedd yn honni bod yn annibynnol o'r grwpiau annibynnol eraill - un ac oll.  Cafwyd hyd yn oed grwp annibynnol yn ardal Llanwddyn oedd yn datgan  ei fod annibynnol oddi wrth pawb arall, ond yn hapus i ddweud eu bod dan adain y Ceidwadwyr - beth bynnag mae hynny yn ei olygu.  


Mewn geiriau eraill mae yna hanes o lanast - rhywbeth sy'n nodweddu cynghorau sy'n cael eu rheoli gan grwpiau annibynnol.


Gallwn - fodd bynnag - fod yn siwr bod newid am fod y tro hwn.  Mae 14 cynghorydd yn ymddeol  ym Maldwyn yn unig.  Gallai hanner y cynghorwyr presenol yn hawdd ymddeol neu golli eu seddi ym mis Mai.


Nod y Ceidawadwyr ydi bod yn brif blaid y cyngor - ac maent y. targedu pentrefi Dyffryn Hafren a De Powys gan geisio adeiladu ar eu llwyddiant yn  etholiadau San Steffan yn 2015.  Mae ganddynt gyfle rhesymol i wireddu hyn.


O safbwynt Plaid Cymru, does ganddi ddim un aelod ar y cyngor presennol, yn wir dim ond un ymgeisydd oedd ym Maldwyn tro diwethaf a chwpl yn Ne Powys. Y tro hwn bydd o leiaf 12 yn sefyll yng Ngogledd y Sir yn arbennig felly yn ardal Dyffryn Dyfi, yr ardal o gwmpas Llanfair Caereinion a Llanfyllin, ardal y Drenewydd a rhai o bentrefi Dyffryn Hafren. 


Gobaith y Blaid yn yr etholiadau yma ydi ethol cynghorwyr sir am tro cyntaf yn ogystal ag ethol pobl i gynghorau trefi Drenewydd, Llanidloes, Machynlleth a'r Trallwng.


Yn hanesyddol ar lefel San Steffan mae Maldwyn wedi bod yn gadarnle Rhyddfrydol, tra bod Brycheiniog a Maesyfed wedi bod a hanes ychydig yn fwy cymhleth.  Ym Maldwyn mae'r Dib Lems wedi cael cweir gan y Toriaid yn ddiweddar tra bod y Toriaid hefyd wedi ennill tir ym Mrycheiniog a Maesyfed - lle nad Kirsty Williams ydi eu gwrthwynebwraig. 


Mae yna bosibilrwydd y bydd gan y Blaid fwy o ymgeiswyr na'r Dib Lems ym mis Mai.


Ar hyn o bryd mae gan y Dib Lems 3 chynghorydd ym Maldwyn, er bod un ohonynt yn ymddeol y tro hwn. Mae posibilrwydd y gall y Blaid ennill mwy o seddi na'r Dib Lems ym Maldwyn - a byddai hynny'n creu cyfle o lunio naratif mai'r Blaid ydi 'r prif wrthwynebwyr i'r Toriaid yn y rhan honno o'r sir - canfyddiad o'i wireddu fyddai'n ddigon ynddo"i hun i ennill pleidleisiau yn y dyfodol.  


Byddai chwe sedd yn ganlyniad gwych - ond byddai un yn welliant sylweddol ar y sefyllfa sydd ohoni.  

*Diolch i Elwyn Vaughan am wybodaeth.


No comments: