Monday, February 20, 2017

Dirgelwch diweddaraf yr Egin

Roedd yna bwt byr iawn heno ar Newyddion 9 am hynt a helynt yr Egin.  

Yn ol y stori 'dydi'r Theatr Genedlaethol - sydd wedi ei leoli ar hyn o bryd mewn adeilad cyfagos - ddim yn bwriadu symud i'r Egin oherwydd 'diffyg lle addas'. 

Rwan, ar yr olwg gyntaf 'dydi hon ddim yn edrych fel fawr o stori, ond o ail ystyried efallai ei bod hi.  Y syniad efo 'r Egin ydi creu clwstwr o ddiwydiannau 'creadigol' ar safle Coleg y Drindod.  Ond hyd y gwyddom, unig denant y datblygiad arfaethedig hyd yn hyn ydi S4C - ond ymddengys nad oes lle i denant newydd - hyd yn oed un sy'n sicr yn 'greadigol' a sydd ddim angen llawer iawn o le.  'Dydw i erioed wedi clywed am glwstwr sydd ond ag un cydadran o'r blaen.

Dwi'n siwr bod yna eglurhad rhesymegol - ond fedra i ddim yn fy myw a meddwl am un.  Oes gan unrhyw un awgrym?

No comments: