Friday, November 18, 2016

Trafod goblygiadau Brexit efo Nathan Gill - o bawb

Felly mae cynrychiolwyr ffermwyr Ynys Mon wedi cyfarfod Nathan Gill - aelod Annibynnol / UKIP i drafod goblygiadau Brexit i'r diwydiant amaethyddol.  Mae amaethyddiaeth yn bwysig iawn i Ynys Mon, a bydd darllenwyr Blogmenai yn cofio i Ynys Mon bleidleisio o drwch blewyn i adael yr Undeb Ewropiaidd a bod Nathan Gill ar flaen y gad i berswadio pobl i bleidleisio i adael yr Undeb.  


Rwan dwi 'n gwerthfawrogi bod amaethwyr Mon yn poeni am oblygiadau Brexit i'w diwydiant - mae'n fygythiad marwol i'r diwydiant yng Nghymru, ond dydw i ddim yn siwr faint mae lobio Nathan Gill - gwleidydd proffesiynol lleiaf dylanwadol Cymru - yn mynd i helpu.

Yn ol y darn yn Golwg mae'r ffermwyr am gadw cymorthdaliadau amaethyddol fel ag y maent ac am sicrhau bod  cynllunio gofalus ar gyfer hynny.  Fydd gan UKIP wrth gwrs ddim rhan mewn unrhyw gynllunio Cymreig (nid bod yna dystiolaeth o fawr ddim cynllunio gan y llywodraeth ar hyn o bryd), a phetai ganddynt ni fyddai gan Nathan Gill ddim byd i'w wneud efo hynny gan iddo adael y grwp am nad oedd yn cael bod yn arweinydd.   Mae'n parhau'n aelod o grwp Ewrop UKIP - ond fydd y grwp hwnnw ddim yn cael unrhyw ddylanwad chwaith - oddi mewn i Senedd Ewrop mae'r grwp mor boblogaidd a'r Pla Du.

Mae ymbalfalu efo UKIP yn beth hynod o amheus i'w wneud beth bynnag, ond yn yr achos hwn ni allai unrhyw ddylanwad sydd gan UKIP ond bod yn hollol wrth gynhyrchiol.  

2 comments:

Anonymous said...

Mi ddylia ffermwyr fod yn wyliadwrus iawn oherwydd un datblygiad niweidiol iawn sydd at y gorwel, sef cytundeb masnachol arfaethedig gyda Awstralia a Seland Newydd.

O fewn dyddiau i Theresa May ddisodli Cameron, fe alwodd Prif Weinidog Awstralia am gytundeb masnach rydd hefo Prydain, ac yn ol gwefan y BBC, 'Theresa May described the move as "very encouraging" and insisted it showed Brexit could work for Britain.'

Rwan, mae hyn, wrth reswm, yn newydd trychinebus i'n amaethwyr. Byddai cytundeb o'r math yma yn sicrhau y byddai tunelli o fenyn, biff a chig oen rhad yn cyrraedd ei harchfarchnadoedd ni. At hyn o bryd mae yn gyfyngiad at fewnforion o'r math yma.

Felly amaethwyr - byddwch yn ofalus!

Joniesta said...

Mae hyn fe cael sgwrs gyda'r sawl sydd wedi eich herwgipio cyn i chi gael eich saethu.