Saturday, July 23, 2016

Mynediad i safleoedd hanesyddol


Bryngaed tua dwy erw o faint yn Llanddeiniolen, Arfon ydi Dinas Dinorwig a cafodd ei chodi - fel gweddill y bryngeiri sydd i 'w gweld yma ac acw ar hyd gorllewin Ynysoedd Prydain - yn ystod Oes yr Haearn.  Mae 'n debyg mai ei phrif nodweddion sydd o ddiddordeb heddiw ydi ei maint - mae 'n fwy na'r rhan fwyaf o geiri tebyg a'r ffaith bod y muriau a'r ffosydd amddiffynol o'i chwmpas yn anisgwyl o eglur, cywrain a chyflawn.  

Fel mae'n digwydd dwi'n 'nabod y safle yn dda iawn oherwydd i mi gael fy magu o fewn rhyw filltir a hanner iddi, ac arferem fynd yno i chwarae pan oeddym yn blant.  I'r rhai ohonoch sydd heb fod i'r gaer, gellir cael syniad o sut safle ydi hi trwy edrych ar y fideo arbennig yma mae Gareth Roberts wedi ei wneud o'r safle.


Nid gwefan sy'n ymwneud a llefydd hanesyddol ydi Blogmenai, a'r rheswm dwi'n son am y lle ydi oherwydd i rhywun gysylltu a mi'r diwrnod o'r blaen i ddweud nad oedd perchenog y tir yn caniatau mynediad iddo i'r safle.  Rwan mae'n rhaid i mi ddweud yma fy mod wedi bod i'r safle gyda chaniatad rai blynyddoedd yn ol.  Yn amlwg, fel plant doeddem ni ddim yn trafferthu chwilio am ganiatad.  Mae hefyd yn deg nodi ei bod yn rhesymol bod deiliaid tir eisiau edrych ar ol eu heiddo.

Ond wedi dweud hynny, mae'n drist bod llawer o safleoedd hanesyddol yng Nghymru - sydd yn etifeddiaeth i ni oll - y tu hwnt i gyrraedd y rhan fwyaf o'r cyhoedd.  Mae yna ddwy safle arall o fewn ychydig filltiroedd i Ddinas Dinorwig yn y sefyllfa yma.  

Mae yna lawer o safleoedd yng Nghymru o dan ofal Cadw neu'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol - ac mae'r rheiny ar gael i bawb.  Mae yna lawer o safleoedd eraill nad ydynt ar gael oherwydd nad ydi'r perchnogion tir yn fodlon caniatau mynediant iddynt.  Nid oes angen iddynt boeni.  Dydi ceiri Oes Haearn ddim yn debygol o ddenu miloedd y bobl - mae ymweld a llefydd fel hyn yn ddiddordeb eithaf anarferol.  Mae safleoedd enwog iawn megis Dun Aengus ar Inis Mor neu Dre'r Ceiri ar gopa'r Eifl yn llefydd distaw iawn hyd yn oed yng nghanol haf.

Un o'r camau y gallai Adran Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth y Senedd ei gymryd i wella'r ddarpariaeth sydd ar gael ydi gweithio efo perchnogion tir i'w hannog i agor eu safleoedd hanesyddol am rannau o'r flwyddyn o leiaf - ac ystyried y posibilrwydd o dalu'r perchnogion unrhyw gostau sy'n deillio o wneud hynny - a rhoi cydnabyddiaeth ariannol bychan yn ychwanegol i hynny bosibl.  

6 comments:

Rhys Mwyn said...

Hoffwn wybod mwy am y diffyg caniatad - rhag ofn fod modd gwneud rhywbeth i wella'r sefyllfa rhysmwyn@hotmail.co.uk

Anonymous said...

Mae'n beth reit ryfedd fod yr enw 'Dinorwig' mor gyslltiedig a'r chwaral, a'r gaer heb fod yn agos iawn iddi, a felly hefyd plwyf Llandinorwig.

Cai Larsen said...

Mae'r gaer a'r chwarel ym mhlwyf Llanddeiniolen

Anonymous said...

a chan arfer yr hen freiniau - gwleidyddiaeth "paleo" drwadl?
Beth am
"gorau po gyntaf; gorau po bella'" ?

hanusi77 said...

I bwy bynnag a fynno !!! Ydych chi'n ddyn busnes / menyw?
Ydych chi mewn unrhyw llanast ariannol neu os oes angen arian i gychwyn eich busnes eich hun?
Ydych chi eisiau i dalu eich biliau neu gychwyn busnes da?
Ydych chi angen Benthyciad Cydgrynhoi?
Ydych chi angen Benthyciad Cyfuniad?
A oes angen Gwella Cartrefi?
E-bost: hanusiinfo1@gmail.com
RHIF: 447035991103

hanusi77 said...

I bwy bynnag a fynno !!! Ydych chi'n ddyn busnes / menyw?
Ydych chi mewn unrhyw llanast ariannol neu os oes angen arian i gychwyn eich busnes eich hun?
Ydych chi eisiau i dalu eich biliau neu gychwyn busnes da?
Ydych chi angen Benthyciad Cydgrynhoi?
Ydych chi angen Benthyciad Cyfuniad?
A oes angen Gwella Cartrefi?
E-bost: hanusiinfo1@gmail.com
RHIF: 447035991103