Sunday, July 17, 2016

A diolch i Chris Bryant _ _

_ _ am egluro i ni beth oedd y rheswm am y coup yn Nhwrci.  Ar ymgyrchwyr Brexit mae'r bai!

Roedd Mr Bryant yn Arweinydd Cysgodol Ty'r Cyffredin hyd ei ymddiswyddiad diweddar.


Ym myd rhyfedd Chris mae swyddogion byddin Twrci yn dilyn ymgyrch refferendwm Ewrop yn glos, yn clywed sylwadau gwrth Dwrcaidd, yn gwylltio'n gacwn, ac yn gwylltio i'r fath raddau nes penderfynu cynnal coup i gael gwared o llywodraeth eu gwlad eu hunain.

Diolch byth nad oes gan Chris swydd gyfrifol na dim byd felly.

3 comments:

Anonymous said...

Cai- fedri di gynnig crynodeb o'r drafodaeth a gafwyd yn y gynhadledd yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn i'r rhai ohonom nad oedd yn gallu bod yno? Diolch.

Cai Larsen said...

Na mae gen ofn - roedd hi'n sesiwn gaedig oedd yn agored i aelodau'r Blaid yn unig. Yn anffodus dydi holl ddarllenwyr Blogmenai ddim yn aelodau.

Marconatrix said...

Cynhadledd gyfrinach felly? Be sydd gynnyn nhw (gynnoch chi?) i´w gelu?