Sunday, June 05, 2016

Delfrydau gwleidyddol cynnar Mark Reckless

Diolch i'r sawl ddaeth a'r canlynol i fy sylw - gohebiaeth etholiadol aelod cynulliad UKIP newydd Dwyrain De Cymru, Mark Rekless.




Pan gafodd ei ethol yn gyntaf yn Rochester & Strewd yng Nghaint -  tros y Toriaid wrth gwrs - ymddengys mai ei flaenoriaethau oedd amddifadu cynghorau Llafur o adnoddau ariannol (mae yna ddigon o 'r rheiny yn Ne Ddwyrain De Cymru iddo eu herlid), gadael i elysennau a chwmniau preifat redeg ysgolion a chefnogi'r syniad o gael comiwsiynwyr heddlu.

Does yna neb am gyhuddo Mark o gychwyn ei yrfa efo delfrydau breuddwydiol a rhamantaidd. Duw a wyr sut ddelfrydau fydd ganddo pan mae ei yrfa wleidyddol yn tynnu tua'i therfyn a phrofiad bywyd wedi ei wneud yn chwerw a sinicaidd. 

No comments: