Tuesday, May 10, 2016

Arwyddocad canlyniad Comiwsiynydd Heddlu'r Gogledd

Un o'r pethau sydd wedi ei golli braidd yn dilyn etholiadau dydd Iau diwethaf ydi perfformiad rhyfeddol o gryf Arfon Jones o Blaid Cymru yn yr etholiad am Gomisiynydd Heddlu'r Gogledd. Ystyrier y tabl cyntaf - sy'n dangos o ble y daeth y pleidleisiau cyntaf yn ol etholaeth.



Daeth y Blaid yn gyntaf yn Aberconwy, Arfon, Dwyfor Meirion ac Ynys Mon - a daeth o fewn chwe phleidlais i ddod ar y brig yng Ngorllewin Clwyd.  Daeth o flaen yr ymgeiswyr annibynnol ac UKIP ym mhob etholaeth, daeth o flaen y Toriaid yn saith o'r deg etholaeth a daeth o flaen Llafur yn hanner yr etholaethau - weithiau gyda mwyafrifoedd anferthol.  Daeth yn ail gweddol agos yn Wrecsam.  

Dangos beth ddigwyddodd i'r ail bleidleisiau yn ol etholaeth mae'r ail dabl.  Y ddwy res uchaf ydi'r rhai pwysig - PC ydi'r gyntaf a Llafur ydi'r ail.




Mae'r Blaid yn cael mwy o ail bleidleisiau na Llafur ym mhob etholaeth - weithiau llawer  mwy. Ni chafodd ail bleidleisiau Llafur eu cyfri oherwydd bod y blaid honno yn ail - ond o'r hyn y gallwn weld yng Nghaernarfon nos Iau, roedd cyfran uchel iawn ohonynt yn mynd i'r Blaid.

Beth felly ydi arwyddocad hyn oll?  Wel -  mae cryfder y perfformiad yn arwyddocaol -  gyda'r Blaid yn cymryd bron i draean y pleidleisiau ar hyd y rhanbarth.  Gwnaethwyd hynny er gwaethaf ymgyrch driciau budron a arweiniodd at sylw cyfryngol negyddol eang ac ymgais hollol hurt a di glem gan un o aelodau Cynulliad y Blaid i gael pleidwyr i bleidleisio'n dactegol i'r ail blaid er mwyn stopio'r pedwerydd ddod yn gyntaf.



Ond mae yna arwyddocad pellach hefyd.  Mae yna rannau o'r Gogledd lle mae pobl wedi pleidleisio i'r Blaid yn naturiol ers hanner canrif.  Ond ar un ystyr mae'r rhanbarth yn ddwy wlad wahanol, ac yn rhai o'r llefydd yma byddai fotio i'r Blaid yn rhywbeth eithaf rhyfedd i'w wneud.  Mae yna lawer o bobl yn yr ardaloedd hyn sydd wedi rhoi un o'u dwy bleidlais i'r Blaid yn yr etholiadau hyn am y tro cyntaf erioed.  Mae pleidleisio i'r Blaid wedi cael ei normaleiddio mewn rhannau o Gymru sy'n anghyfarwydd efo gwneud hynny.

Adlewyrchwyd hyn mewn rhannau eraill o Gymru - Caerdydd er enghraifft.  Cafodd y Blaid fwy o bleidleisiau'n gyfforddus na'r Lib Dems yn y brif ddinas.  Hyd yn gymharol ddiweddar roedd y Dib Lems yn dominyddu gwleidyddiaeth leol yng Nghaerdydd.

Roedd yr hyn ddigwyddodd yng Nghaerdydd yn gam mawr ymlaen o ran Cymreigio gwleidyddiaeth, mewn rhannau o'r wlad sy'n tueddu i ddilyn patrymau etholiadol Seisnig.  Roedd pleidlais wych Arfon yn y Gogledd yr un mor bwysig - ac am yr un rheswm.  

2 comments:

Unknown said...

Dadansoddiad gwerthfawr. Credaf Y byddai patrwm tebyg mewn mannau eraill yng Nghymru. Dyfal donc a dyr y garreg.

Anonymous said...

diddorol eto - gawn ni erthygl ynglyn a'r hyn wnaeth McEvoy yng ngorllewin caerdydd