Wednesday, May 11, 2016

Arweiniad yr idiot i beth ddigwyddodd heddiw

1). Mae Llafur yn rhoi eu harwrinydd ger bron y Senedd fel eu henwebai ar gyfer y swydd o Weinidog Cyntaf.

2). Er nad oes ganddyn nhw'r niferoedd i sicrhau bod eu harwrinydd yn cael ei ethol, dydyn nhw ddim yn trafferthu gwneud unrhyw waith codi pontydd paratoadol.  Y rheswm am hyn ydi bod y gred bod  ganddi ddwyfol hawl i reoli Cymru wedi ei wreiddio yn dwfn yn DNA Llafur Cymru.

3). Mae Plaid Cymru yn cynnig ei harweinydd hithau i'r Senedd fel Gweinidog Cyntaf / Prif Weinidog.

4).  Mae Llafur a'r un aelod Dib Lem yn pleidleisio i'r Llafurwr, mae pawb arall yn pleidleisio i'r Bleidwraig.  Mae'r bleidlais yn gyfartal.

5). Yn hytrach na gofyn iddyn nhw eu hunain pam bod y Toriaid ac UKIP yn ei chael yn haws pleidleisio i un o aelodau mwyaf Adain Chwith y Senedd, sy'n credu mewn chwalu'r DU, ac aros yn Ewrop yn hytrach nag i'w hymgeisydd nhw - mae Llafur yn gwneud yr un peth ag arfer - palu celwydd, cael sterics a dychwelyd at wleidyddiaeth yr anterliwt.  

A beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd Llafur yn gwneud yr hyn y dylent fod wedi ei wneud ar y cychwyn a dangos mymryn o wyleidd- dra a gwneud ychydig o waith paratoi cyn mynd i bleidlais.  Bydd eu hymgeisydd yn cael ei ethol wedyn.  

3 comments:

Unknown said...

Dadansoddiad da ! Diwrnod allweddol i Blaid Cymru heddiw !
Torri crib Llafur !
Fe fydd hyn yn allweddol yn yr wythnosau cyntaf i lunio gwaith y senedd.

Marconatrix said...

ROTFLMFAO!!! (Sori, dwi ddim yn gwybod pa beth ydi hynny yn Gymraeg)

Anonymous said...

Y Blaid wedi chwarae bleindar heddiw! Hen bryd i Lafur gael realiti check. Difyr iawn!