Sunday, November 08, 2015

Disgwyl i bobl goffau'r meirw trwy ganu can ryfelgar

Mae hi'n anffodus bod Dydd Sul y Cofio wedi troi yn rhyw fath o achlysur pan mae Toriaid yn ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol yn erbyn mynychwyr sydd ddim yn rhannu eu gwleidyddiaeth - ond dyna lle ydan ni ar hyn o bryd - gydag arweinydd Llafur yn cael ei feirniadau am beidio gwneud rhywbeth neu'i gilydd i raddau digonol.

Mae'r Toriaid wrthi yng Nghymru hefyd gyda un o gynghorwyr Toriaidd y ddinas y. Gwichian oherwydd na chanodd arweinydd y Blaid ar Gyngor Caerdydd anthem genedlaethol Lloegr yn seremoni Sul y Cofio a gynhalwyd yn y brifddinas.





Rwan mae yna resymau tros beidio canu'r gan blentynaidd yma hyd yn oed os nad ydych yn Gymro nag yn genedlaetholwr o unrhyw fath.  Can yn clodfori unigolyn ydi hi yn hytrach na'r wlad y mae'r unigolyn honno'n ei harwain - mae yna rhywbeth yn gwltaidd am y gan - y math o beth y byddech yn ei ddisgwyl o anthem Gogledd Corea.

Ond y rheswm amlwg tros beidio ei chanu mewn seremoni coffau milwyr marw ydi ei bod yn gan mor rhyfeddol o ryfelgar.  Rhyfeloedd sydd wedi arwain at yr holl gelanedd i filwyr tros y canrifoedd, ac mae disgwyl i ni eu coffau trwy ganu can ryfelgar.  Wele'r geiriau llawn isod.

1. God save our gracious Queen,
Long live our noble Queen,
God save the Queen!
Send her victorious,
Happy and glorious,
Long to reign over us;
God save the Queen!

2. O Lord our God arise,
Scatter her enemies
And make them fall;
Confound their politics,
Frustrate their knavish tricks,
On Thee our hopes we fix,
God save us all!

3. Thy choicest gifts in store
On her be pleased to pour;
Long may she reign;
May she defend our laws,
And ever give us cause
To sing with heart and voice,
God save the Queen!

4. Not in this land alone,
But be God's mercies known,
From shore to shore!
Lord make the nations see,
That men should brothers be,
And form one family,
The wide world over.

5. From every latent foe,
From the assassins blow,
God save the Queen!
O'er her thine arm extend,
For Britain's sake defend,
Our mother, prince, and friend,
God save the Queen!

6. Lord grant that Marshal Wade
May by thy mighty aid
Victory bring.
May he sedition hush,
And like a torrent rush,
Rebellious Scots to crush.
God save the Queen!

No comments: