Monday, August 03, 2015

Y diweddaraf o Gyngor Caerdydd


Felly mae'n syrthio ar Blaid Cymru i geisio atal y weinyddiaeth Llafur ar gyngor mwyaf boncyrs Cymru rhag trosglwyddo tros i fil o'u staff i ofal cwmni newydd 'hyd braich'.  Mi fydd y newidiadau yn effeithio yn bennaf ar bobl sydd ar gyflogau isel - pobl casglu biniau, pobl sy'n gweithio mewn parciau ac ati.  

Arbed pres ydi'r rheswm a roddir wrth gwrs - a dyna yn wir ydi'r rheswm, neu ran o'r rheswm o leiaf.  Prif gostau y cwmni hyd braich newydd (o ddigon) fydd cyflogi eu staff.  Yr unig ffyrdd sydd ganddynt mewn gwirionedd  o arbed pres ydi trwy dorri ar staff, trwy dorri eu cyflogau, neu trwy wneud eu hamodau gweithio yn salach.  Does yna ddim byd arall sydd am wneud llawer o wahaniaeth.  Ond mae cwmni hyd braich yn rhoi cyfle i'r weinyddiaeth Lafur wthio'r gyfrifoldeb am ymosod ar ansawdd bywyd rhai o'i gweithwyr tlotaf hyd braich oddi wrthynt eu hunain.  

Fydd ddim rhaid i unrhyw benderfyniadau anodd fynd trwy gabinet Llafur - mi fydd yna Brif Weithredwr i'r cwmni newydd i gymryd y bai.  Ymarferiad mewn cael rhywun arall i wneud gwaith budur y weinyddiaeth Llafur mae gen i ofn - ac enghraifft arall, eto fyth, o'r Blaid Lafur yn gweithredu mwy fel Toriaid na Llafurwyr.

No comments: