Thursday, August 13, 2015

Blogiad gwyliau 1

Reit, dwi ar fy ngwyliau - ac fel arfer dwi am flogio yn achlysurol -  mae'n gwbl anisgwyl (ac yn wir anesboniaday) cymaint sy'n darllen fy mlogiadau gwyliau.  Yr un telerau ag arfer mae gen i ofn - blog gwleidyddol nid blog gwyliau  ydi Blogmenai, felly gwleidyddol fydd y cynnwys.  Hefyd peidiwch a disgwyl i mi wastraffu'r gwyliau yn ei diddanu yr uffars hunanol - mi fydd pob dim yn eithaf cwta.  Peidiwch a chwyno am wallau iaith chwaith - dwi ddim yn bwriadu prawf ddarllen dim.

Dwi newydd dreulio'r diwrnod yn ardal Verdun, yng Ngogledd Ddwyrain Ffrainc. Mae'r dref yn lle hynod ddymunol a heddychlon ond mae'n enwog oherwydd brwydr erchyll rhwng yr Almaen a Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.  Bu farw cannoedd o filoedd ar y ddwy ochr yn ystod y frwydr - a barhaodd am 300 niwrnod.  Cafodd naw o bentrefi ar y safle eu difa - rhai ohonynt wedi bod yn gymunedau hyfyw ers Oes y Rhufeiniaid.  Nid oedd yn bosib dychwelyd iddynt wedi'r rhyfel oherwydd y difrod a'r holl ffrwydrolion marwol oedd ar hyd y lle.  Serch hynny maent yn parhau i fod yn bentrefi yn llygaid y gyfraith gydag etholiadau i ddewis cyngor pentref a maer - i bentrefi sydd wedi eu chwythu oddi ar wyneb daear ganrif yn ol a lle nad oes fawr ddim ar ol o'r pentrefi gwreiddiol.  Mae'r rhan fwyaf o'r coedwigoedd enfawr wedi eu cau i'r cyhoedd oherwydd eu bod yn parhau i fod a gweddillion dynol, gwenwyn rhyfel a ffrwydrolion sydd heb ffrwydro.  Byddin Ffrainc yn unig sydd a hawl mynediad.



Serch hynny mae llawer i'w weld - ceiri  tan ddaearol anferth a'r L'ossuaire de Douaumont er enghraifft.  Lle i storio esgyrn ydi L'ossuaire.  Mae'r un yn Douramont yn anferth - mae yna weddillion dynol 130,000 o filwyr yn L'ossuaire de Douaumont - yn Almaenwyr a Ffrancwyr.  Mae'r nifer esgyrn yn cynyddu'n flynyddol fel mae mwy o weddillion yn cael eu darganfod a'u storio.  Mae yna fynwent filwrol y tu allan lle claddwyd tua 16,000 o'r sawl y gellid eu hadnabod.  Ceir mynwentydd tebyg yma ac acw ar hyd yr ardal.  Roedd mwyafrif llethol y sawl fu farw yn yr ardal yn ddynion yn eu dau ddegau, a'u tri degau cynnar - oed fy mhlant i heddiw.  Bywydau nad oedd wedi hanner eu byw yn llythrennol wedi eu chwythu'n ddarnau.  





Mae'n bosibl ymweld a'r naw pentref coll - er nad oes yna ddim llawer i'w weld ag eithrio ychydig o adfeilion treuenus, arwyddion i ddangos pwy arferai weld yn lle, ac eglwys fechan sydd wedi ei hadeiladu ar pob safle yn y blynyddoedd ar ol y Rhyfel Byd Cyntaf.  




Mae'r cysylltiad gwleidyddol yn weddol amlwg mae'n debyg gen i.  Y ganrif ddiwethaf oedd yr un mwyaf gwadlyd yn hanes y ddynoliaeth o ddigon.  Roedd y rhyfeloedd a arweiniodd at y tywallt gwaed yn cael eu gyrru gan ddwy ffrwd wleidyddol wahanol imperialaeth a gwrthdaro ideolegol.  Cenfigen a drwg deimlad rhwng y sawl oedd yn rheoli pwerau imperialaidd mawr oedd yn gyfrifol am yr hyn ddigwyddodd yn Verdun, a chafwyd cryn dywallt gwaed yn ail hanner y ganrif pan oedd yr ymerodraethau mawr yn syrthio'n ddarnau. Ac wedyn roedd yna'r gwrthdaro ideolegol oedd yn y bon yn ymwneud ag anghytundeb ynglyn a'r ffordd orau o drefnu economiau.  

O edrych yn ol mae llawer o'r hyn oedd yn achosi i bobl ddefnyddio dulliau diwydiannol i ladd ei gilydd yn eu cannoedd o filoedd yn ymddangos yn ddi sylwedd a di ddim erbyn heddiw.  Ond ar y pryd roedd 
gwleidyddion y pleidiau sefydliadol  ynghyd a'r wasg oedd yn eu cefnogi yn datgan yn groch bod rhaid mynd i ryfel er mwyn atal rhyw erchylldra neu'i gilydd.  Doedd yna ddim consensws sefydliadol tros pob rhyfel - er enghraifft roedd ein cyfeillion yn y Daily Mail yn groch yn erbyn cymryd rhan yn yr Ail Ryfel Byd -  cyn iddi ddechrau - er eu bod o blaid bron i pob rhyfel arall a gymrodd Prydain ran ynddi trwy'r ganrif.  Ond roedd lled gonsensws yn amlach na pheidio, ac roedd y farn gyhoeddus yn cael ei llywio mewn modd oedd yn ei gwneud yn bosibl i gychwyn a chynnal rhyfel.

Mae ein hanes diweddar yn dangos yn glir i ni nad ydi lled gonsensws gan y sefydliad gwleidyddol yn golygu bod y consensws hwnnw yn gywir.  Mae hynny yr un mor wir am ryfeloedd y ganrif ddiwethaf ag yw am wleidyddiaeth y ganfif yma.  Roedd barn y Toriaid a Llafur am ymyraeth yn Afghanistan ac Irac yn gwbl anghywir.  Roedd polisi economaidd neo ryddfrydig a'r llyfu a llempian o gwmpas banciau anghyfrifol yn gwbl anghywir, roedd yr ymgyrch ofn a dychryn yn erbyn annibyniaeth i 'r Alban wedi ei seilio ar gelwydd, dydi'r gred gwltaidd mewn llymder ddim yn gwneud unrhyw synnwyr economaidd, ac mae'r corws sy'n rhybuddio yr aiff Llafur i ddifancoll os ydynt yn dewis arweinydd sydd o'r tu allan i'r consensws sefydliadol hefyd yn anghywir.

Mae coelio nonsens y grwpiau cul sy'n berchen y cyfryngau a sy'n rhedeg y sefydliadau gwleidyddol yn San Steffan wedi arwain at drychineb ar ol trychineb yn ystod y ganrif ddiwethaf, a does yna ddim lle o gwbl i gredu y bydd dilyn yr un grwpiau yn gibddall yn arwain at ganlyniadau llesol yn ystod y ganrif yma chwaith.

No comments: