Wednesday, April 08, 2015

UKIP yn cael ei gwasgu allan o bethau?

Graffiau sy'n dangos canfyddiadau polau diweddaraf Ashcroft a geir isod.  Mae'r rhain yn fath arbennig o etholaethau - rhai ymylol Tori / Llafur.  Ond y patrwm amlycaf o ddigon ydi bod pleidlais UKIP yn cael ei gwasgu'n sylweddol.  Dydi hynny ddim yn golygu y bydd yr un peth yn digwydd mewn pob math o etholaeth - ond mae yna awgrym cryf ynddynt y bydd Etholiad Cyffredinol 2015 yn llawer llai llwyddiannus i'r blaid adain Dde na mae llawer o sylwebwyr wedi awgrymu hyd yn hyn.












1 comment:

Anonymous said...

Hollol ddealladwy. Mae'r Bîb a'r cyfryngau eraill wedi newid y naratif (a'r mood music) yn sylweddol yn yr etholiad yma. Dwi'm yn gwybod y ganran, ond mae na 10%(?)o werin Prydain sy jyst yn symud eu pleidlais efo naratif y 10 o clock news. Mae'r City yn dechrau poeni am adael Ewrop yn llwyr a bydda'r suits wedi cael gair yng nghlust y tv chiefs a dweud "amser i dynnu yn ôl fymryn".

Phil Davies