Wednesday, March 11, 2015

Y pleidiau Llafur lleol sy'n pardduo nhw eu hunain.

Mi fydd darllenwyr Blogmenai yn cofio Tony Blair am ei anturiaethau yn dweud celwydd er mwyn dechrau rhyfel sydd wedi arwain yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol at farwolaethau cannoedd o filoedd o bobl ac oherwydd iddo droi 'r Blaid Lafur yn blaid neo ryddfrydol oedd yn hapus i fyw o dan fawd y banciau.  Arweiniodd diffyg rheoleiddio'r banciau yn ei dro at chwalfa ariannol nad ydym wedi gweld ei chefn eto.  Arweiniodd hefyd at bobl gyffredin a gweithwyr sector cyhoeddus yn cael eu gorfodi gan lywodraethau i dalu'n ddrud i achub banciau rhag mynd yn fethdalwyr oherwydd eu trachwant a'u ffolineb nhw eu hunain.  

Beth bynnag mae'r banciau yn dal yn ddiolchgar i Mr Blair ac mae wedi cael o leiaf £3 miliwn y flwyddyn i 'gynghori'  JP Morgan a Zurich International.  Mae hefyd yn gwneud swmiau mawr o bres yn rhoi cyngor i weinyddiaethau anemocrataidd sydd efo tueddiad anffodus i ladd trigolion eu gwledydd eu hunain - gwledydd megis 
Saudi Arabia, Azerbaijan ac Kazakhstan.  Cafodd wobr heddwchgwerth  $1,000,000 gan wladwriaeth derfysgol Israel ar ffurf 'gwobr heddwch'.  Dwi ddim yn tynnu coes.

Ag ystyried cyfoeth Mr Blair dydi £1,000  o gyfraniad i 106 o ymgeiswyr seneddol mewn seddi ymylol ddim yn ymddangos yn swm mawr o bres.  Ond mae'n rhyfeddol nodi nad oes yr un o'r sawl sydd wedi cael cynnig y pres yng Nghymru wedi teimlo'r angen i'w wrthod.  

Y pwyllgorau etholaethol Llafur sydd wedi pardduo eu hunain trwy dderbyn y pres a chysylltu eu hunain efo Tony Blair ydi:
Arfon, Aberconwy, Canol Caerdydd, Gogledd Caerdydd, Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr, gorllewin Caerfyrddin / De Penfro a Bro Morgannwg.

No comments: