Monday, December 15, 2014

Ymddiswyddiad Sian Gwenllian o fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd

Eglurhad gan y Cyng Sian Gwenllian pam ei fod wedi ymddiswyddo o fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd:


Ymddiswyddiad SG o CCG Ym Medi 2014, penderfynodd Bwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd hysbysebu dwy oi swyddi haen uchaf heb fod y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol a heb osod amod fod rhaid ir ymgeiswyr llwyddiannus ddysgu Cymraeg. Cafodd y mater ei drafod yn yr ail gyfarfod i mi ei fynychu fel aelod oedd newydd ei phenodi ir Bwrdd. Roeddwn wedi dadlau a phleidleisio yn erbyn y penderfyniad ond pan benderfynodd y Bwrdd gefnogir bwriad yma, teimlwn nad oedd gen i ddewis ond ymddiswyddo or Bwrdd fel mater o egwyddor. Ar ôl meddwl yn ofalus iawn am y mater, rhoddais wybod ir Cadeirydd fy mod yn dymuno ymddiswyddo ac fe dderbyniwyd hwnnw yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd. Ni chredaf fod modd edrych ar benderfyniad y Bwrdd fel eithriad o gofio statws uchel y swyddi ac rwyf yn cwestiynau pa mor gyfreithiol yw torri polisi iaith Gymraeg y corff mewn ffordd mor sylweddol. Credaf fod y mater yn cael ei ymchwilio gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg. Dyma fy rhesymau dros ymddiswyddo mewn gwrthwynebiad ir penderfyniad: 1)Bydd penodi dau aelod o staff di-Gymraeg ar y lefel uchaf yn newid holl ethos ieithyddol CCG, cyflogwr mawr lleol.  Bydd cyfathrebu o dydd i dydd yn yr uwch dim reoli yn digwydd drwy gyfrwng y Saesneg. Bydd hyn yn treiddio drwyr corff i gyd ac fe fydd yn mynd yn gynyddol anodd i gynnal y Gymraeg fel iaith cyfathrebu mewnol. Byddwn yn gweld Seisnigio graddol or corff cyfan mewn rhan o Gymru lle maer iaith Gymraeg ar ei chryfaf, ond dan fygythiad hefyd. Mae cynnal a datblygur ymrwymiad cryfaf posib ir iaith Gymraeg gan fudiadau sector cyhoeddus yn hanfodol i barhad yr iaith Gymraeg.  Maen helpu creu gweithlu lleol dwyieithog hyderus, yn gwasanaethu cymuned ddwyieithog hyderus.  2)Os mai prinder ymgeiswyr addas a phroblemau recriwtio syn cael y bai am y newid yma mewn polisi, yna mae angen datrys y problemau hynny mewn ffordd wahanol ; mewn ffordd sydd ddim yn peryglu holl ethos Cymraeg y sefydliad.  Maer strwythur uwch reoli newydd wedi ei ddylunio gyda chymorth cwmni o Fanceinion  nad yw, efallaideall y diwylliant lleol.  Yng Ngogledd Orllewin Cymru, maen bwysig cael polisïau datblygu staff, mentora ac olyniaeth cadarn mewn grym er mwyn datblygu a chryfhau talent lleol. 3)Cartrefi Cymunedol Gwynedd ywr corff sydd bellach yn gyfrifol am y stoc tai oedd yn arfer bod ym meddiant Cyngor Gwynedd, tua 6,300 o gartrefi. Rwyn hynod o falch o bolisïau Cymraeg cadarn Cyngor Gwynedd ac roeddwn yn hyderus y byddai CCG yn cadw at y polisïau hynny y bu eraill yn ymgyrchu mor ddygn iw sicrhau. Roedd fy niweddar Dad yn uwch swyddog yn yr hen Gyngor Dosbarth Dwyfor ac yn un o benseiri polisi iaith arloesol Gwynedd. Maen fy nhristáu yn fawr fod sefydliad syn awr yn gofalu am stoc tai Cyngor Gwynedd yn troi cefn ar y polisi iaith arloesol hwnnw. 4)Maer rhan helaeth o staff CCG yn ddwyieithog. Mae dweud nad ywr gallu i siarad Cymraeg ar gyfer swyddi mor uchel yn hanfodol yn siŵr o gael effaith negyddol ar foral y gweithlu cyfan gan gyflwyno negeseuon negyddol ir rhai syn gobeithio symud ymlaen gydau gyrfaoedd o fewn CCG. 

No comments: