Friday, December 26, 2014

Pol y ICM y Guardian fory


1 comment:

Dylan said...

Rhyfeddol. Dw i wedi bod yn amheus ers amser y byddai'r SNP yn cipio cymaint â hyn o seddau yn y pen draw, yn bennaf gan fod mwyafrifoedd Llafur mor anferth. Ond os ydi hi'n wir bod y gogwydd tuag at yr SNP hyd yn oed yn fwy yn yr hen gadarnleoedd Llafur nag yng ngweddill yr Alban, bydd y canlyniad yn syfrdanol.

Eto i gyd, dw i dal i fynnu bod angen i'r SNP gadw rheolaeth ar y disgwyliadau a thrio peidio cynhyrfu gormod. Mae hynny'n anodd pan mae arolwg barn ar ôl arolwg barn yn rhoi ffigurau fel hyn, mi wn. Ond os ydi pawb yn dod i ddisgwyl i'r SNP fod â 40+ sedd yn eu meddiant ar ôl mis Mai, mae perygl i'r etholiad gael ei bortreadu fel un siomedig os nad ydi hynny cweit yn digwydd. Y gwir ydi byddai 15 sedd yn ganlyniad gwych, 20+ yn un o arwyddocâd hanesyddol a 30+ yn wirioneddol chwyldroadol. Ond fel mae'r cynnwrf ar y funud, byddai Llafur yn gallu galw unrhyw ganlyniadau nad yw cweit cynddrwg iddynt â'r un a awgrymir gan yr arolwg yma fel rhyw fath o led-fuddugoliaeth. Mae hynny'n hurt, ond dyna natur gêm y disgwyliadau.

Mae'n talu i fod yn besimistaidd weithiau. Mae gan yr SNP a PC record hanesyddol o wneud i ganlyniadau perffaith ok edrych fel siom oherwydd methiant i gadw'r disgwyliadau'n synhwyrol. Gweler 2010 ("5 sedd i PC! 20 i'r SNP!") a 2012 ("SNP i gipio rheolaeth lawn yng Nglasgow!").

Dw i wedi cynhyrfu, fy hun. Ond gwell disgwyl llai a gwneud i'r canlyniad ar y noson swnio hyd yn oed yn well!