Sunday, November 16, 2014

Hanes Glyn Davies yn ymddangos ar dudalen flaen y Sunday Times

Mae'n debyg y dylai Blogmenai longyfarch aelod seneddol Maldwyn, Glyn Davies.  Nid yn aml y bydd aelod seneddol mainc gefn o Gymru yn llwyddo i gael ei hun ar dudalen flaen y Sunday Times, ond mae Glyn wedi llwyddo i wneud hynny - ac am reswm clodwiw iawn hefyd, sef peidio a chanfasio i'r Toriaid yn Rochester.

I dorri stori hir yn fyr ymddengys bod y chwipiaid Toriaidd yn disgwyl i pob un o aelodau seneddol y blaid fynd i Rochester i ymgyrchu ar gyfer yr is etholiad o leiaf dair gwaith.  Yn anffodus 'dydi Glyn ddim yn gwneud y stwff canfasio 'ma oherwydd bod ei gefn yn brifo, ond aeth, serch hynny,  i westy yng nghyffiniau  Rochester efo'i wraig i chwarae golff tra bod ei gyd aelodau seneddol yn ymgyrchu saith milltir i fyny'r lon yn Rochester.

Mae'n anodd barnu pa ran o'r stori sydd fwyaf anhygoel a dweud y gwir.  

Fel cyd ddioddefwr poen cefn achlysurol dwi'n cydymdeimlo efo Glyn.  Ond pan mae gen i broblemau cefn mae cerdded yn weddol hawdd - tra bod chwaraeon yn hynod anodd.  Mae'n rhaid gen i bod Glyn yn dioddef o rhyw anhwylder cefn hynod anarferol.  

Ac wedyn mae gennym y Blaid Doriaidd druan - gwta chwe mis o etholiad cyffredinol - mor brin o actifyddion nes peri i Michael Gove fwlio aelodau seneddol y blaid i fynd i droedio lonydd Rochester yn crefu ar drigolion anffodus y dref honno am bleidleisiau. 

Ta waeth, llongyfarchiadau i Glyn ar ei gamp a gobeithio y bydd ei gefn wedi gwella cyn mis Mai.  Mi fyddai'n bechod petai Maldwyn fyddai'r unig sedd i'r Lib Dems ei chipio trwy'r DU y flwyddyn nesaf.  Neu efallai bod y problemau mae Glyn yn ei gael efo'i gefn yn rhoi cyfle i Gwynfor.  Pwy a wyr?

1 comment:

Gwynfor Owen said...

Generally I'm relaxed about most UKIP policy, even if it's usually undeliverable. But disgusted by Mark Reckless advocating repatriation.
Yr uchod yw trydar gan Glyn. Efallai Mai hyn oedd ei reswm dros beidio canfasio dros y Toriaid yn Rochester. O leiaf dwi yn gallu dweud yn glir does dim byd am bolisiau UKIP dwi yn Hapus amdano.
Gallaf hefyd ddatgan nad yw Plaid Cymru yn ceisio Dwynwen polisiau gan UKIP o gwbwl sydd yn wahanol iawn i'r hyn mae'r Pleidiau Lludeinig yn wneud