Thursday, November 20, 2014

Etholiad syml yn y bon

Cyn cychwyn ymddiheuriadau am y blogio ysgafn diweddar - mae pethau'n brysur iawn o safbwynt proffesiynol ar hyn o bryd, a does gen i ddim llawer o amser.

Beth bynnag,  mae'n ddiddorol - os nad anisgwyl - bod David Cameron eisiau cadw fformiwla Barnett am byth bythoedd am wn i.  Mi fydd y sawl sy'n dilyn y pethau yma yn gwybod bod y fformiwla  yn tan gyllido Cymru o £1.2bn o gymharu a'r Alban, a hynny er bod yr Alban yn llawer cyfoethocach na Chymru.  Mi fyddant hefyd yn ymwybodol i'r fformiwla gael ei dyfeisio yn 1978 fel dull dros dro o ariannu gwledydd llai y DU.  Felly os caiff Cameron ei ail ethol ym mis Mai y flwyddyn nesaf gallwn ddisgwyl mwy a mwy o doriadau mewn gwariant cyhoeddus.  

Ac os caiff Llafur ei hethol mi fedrwn ddisgwyl yr un peth - beth bynnag maen nhw'n ei ddweud ar hyn o bryd.  Cawsant dair mlynedd ar ddeg hir i ddiwigio'r ffordd mae Cymru'n cael ei chyllido - ond ni wnaed hynny.  Does yna ddim rheswm i feddwl y bydd pethau'n wahanol y tro hwn.  

Felly os ydych eisiau i Gymru gael ei chyllido'n briodol - rhywbeth fyddai'n dod a'r toriadau enbyd sy'n cael eu gweithredu ar hyn o bryd mae yna ffordd syml o wneud hynny - bwrw pleidlais tros Blaid Cymru a gobeithio am etholiad agos tros y DU - un digon agos i'r Blaid fod mewn sefyllfa i fargeinio ynddi.  Mae'n etholiad syml yn y bon - os ydych yn byw yng Nghymru.

1 comment:

Anonymous said...

Y Blaid Lafur yn Llundain pallu gwneud dim i wella cyllido Cymru (sy'n dweud cyfrolau am ddylanwad Carwyn Jones), a Stephen Crabb o'r Toriaid newydd gwadu bod problem. Byddai cefnogi Llafur neu'r Toriaid yn gofyn am gic yn y danedd.

Dafydd Williams