Tuesday, November 11, 2014

Bargeinio i gael y gorau i Gymru

Mae'r graffiau isod wedi eu cymryd o Politicalbetting.com.  Maent yn adlewyrchu'r llif arian ar gyfnewidfa betio Betfair ar fwyafrif llwyr i'r Toriaid a Llafur yn etholiadau'r flwyddyn nesaf.  Mae'n gwbl glir nad yw'r marchnadoedd betio yn ystyried bod gan y naill blaid unoliaethol na'r llall  gyfle cryf i ennill mwyafrif llwyr - ac yn anhygoel maent yn dangos  bod y tebygrwydd o hynny yn syrthio i'r Toriaid a Llafur ar yr un pryd.  Go brin i hynny erioed ddigwydd o'r blaen.

Mae gan hyn oblygiadau pell gyrhaeddol i natur etholiad y flwyddyn nesaf.  Yn hytrach na'r gystadleuaeth arferol am oruwchafiaeth rhwng y ddwy brif blaid unoliaethol, bydd yn gystadleuaeth lle mae cyfle i bob plaid gael eu hunain mewn sefyllfa o allu dylanwadu ar gyfeiriad polisi y llywodraeth nesaf.  

Oddi tan amgylchiadau felly dydi pleidleisio i'r pleidiau unoliaethol yng Nghymru ddim yn ddefnydd effeithiol o bleidlais os mai cael y fargen orau i Gymru ydi bwriad y sawl sy'n pleidleisio.  Dim ond un blaid sydd am fargeinio i gael y gorau i Gymru yn annad dim arall.  Bargeinio i gael y gorau iddyn nhw eu hunain fydd y pleidiau unoliaethol.  Bargeinio i gael y gorau i Gymru fydd Plaid Cymru.





No comments: