Friday, November 14, 2014

Awgrym arall o senedd grog

Delwedd ydi'r isod o farchnad Sporting Index ar y nifer o seddi mae pleidiau gwahanol am eu hennill yn etholiad San Steffan y flwyddyn nesaf.  Mae'n awgrymu'n gryf bod pethau am fod yn hynod o agos rhwng y ddwy brif blaid unoliaethol ac mai senedd grog sy'n ein haros.  

Fel rydym wedi son eisoes mae canfyddiad cyffredinol mai senedd grog fydd hi yn cynnig cyfle gwych i'r pleidiau llai lunio naratif oddi amgylch yr hyn maent am ofyn amdano yn ystod unrhyw fargeinio ol etholiad.  Mae'n gyfle gwych i wneud argraff go iawn.


2 comments:

Anonymous said...

Petai senedd grog yn arwain at rhyw fath o drafodaeth a negydu rhwng PC a phleidiau eraill, pwy fuasai'n eu harwain ? Ai'r ASau, neu Leanne Wood ? .

Anonymous said...

Pwy fydd yn arwain trafodaethau PC petai yna senedd grog ? Ai yr ASau a fuasai'n San Steffan, neu LW ?
Credaf i Dafydd Wigley ennill iawndal i'r chwarelwyr mewn sefyllfa gyffelyb yn nyddiau llywodraeth Callaghan.