Thursday, October 30, 2014

Y gwersi o ddatblygiadau diweddaraf yn yr Alban

Dydi pol piniwn bum mis cyn etholiad ddim yn ffordd o wybod beth fydd canlyniad yr etholiad yna.  Ond mae'n ffordd dda o wybod beth ydi'r teimladau ar lawr gwlad ar hyn o bryd - ac mae yna gysylltiad rhwng hynny ag etholiad sydd i'w chynnal yn y dyfodol canolig.



Mae pol Albanaidd STV heddiw yn syfrdanol - a byddai'n anodd ei gredu oni bai bod is setiau polau Prydeinig yn dweud stori debyg.  Mae edrych ar is setiau'r pol STV hefyd yn hynod ddadlennol - mae pobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol yn llawer mwy tebygol na phobl eraill i bleidleisio i'r SNP - a felly hefyd pobl efo plant yn byw adref (hy pobl ieuengach).  Petai ffigyrau heddiw yn cael eu hailadrodd ym Mis Mai byddai'r SNP yn ennill 54 sedd, byddai Llafur yn ennill 4 a'r Lib Dems 1.  Gallai bargen rhwng yr SNP a'r Gwyrddion arwain at golli bron i pob un sedd unoliaethol.

Fel yr awgrymais ar y dechrau, dydi canfyddiad heddiw ddim yn golygu y bydd Llafur yn colli deugain a mwy o seddi fis Mai - ond mae yn awgrymu y bydd nifer dda o seddi yn syrthio.  Mae hyn yn gadael Miliband mewn twll.  Mae ei strategaeth etholiadol wedi ei seilio ar ennill 35% o'r bleidlais.  Byddai hynny'n ddigon i Lafur gael mwyafrif llwyr.  Ond os ydi Llafur yn colli dau ddwsin neu fwy o seddi yn yr Alban yna maent angen mwy o bleidleisiau - 37% neu 38% o bosibl.  Dydi hynny ddim am ddigwydd. 

Dydi'r SNP ddim am gefnogi llywodraeth Doriaidd, felly mae'n edrych yn fwyfwy tebygol y bydd Miliband yn  brif weinidog ar ol mis Mai, ond y bydd ei weinyddiaeth yn gwbl ddibynol ar gefnogaeth yr SNP.  Mi fyddant yn rhoi cefnogaeth i Lafur ar yr amod eu bod hwythau yn dawnsio i gerddoriaeth bagpeip yr SNP - a bydd hynny yn golygu pwerau i'r Alban, triniaeth ffafriol i'r Alban, parch i'r Alban.  

Os nad ydi Cymru mewn sefyllfa gref i fargeinio yna mi fyddwn yn cael ein gadael ar ol - eto fyth.  Nid rhoi grym i Owen Smith ydi'r ffordd orau o gael Cymru mewn sefyllfa gref i fargeinio.  Yn wir, dyna'r ffordd leiaf effeithiol dan haul o wneud hynny.  Blaenoriaeth Owen a'i blaid ydi cael y fargen orau i weinyddiaeth Lafur newydd.  Mi gaiff buddiannau Cymru eu rhoi o'r neilltu fel arfer.  

Yn yr amgylchiadau newydd sydd ohonynt mae'n bwysig bod gan Cymru lais cryf ym mis Mai - a fydd ganddi hi ddim os ydym yn dychweld llwyth o Lafurwyr - rydym wedi pleidleisio i bobl felly ym mhob etholiad ers 1918 a rydan ni'n dal yn dlawd, yn dal yng nghefn pob ciw, yn dal i gael ein hanwybyddu.  

Mae'n bwysicach nag erioed bod cymaint a phosibl o aelodau seneddol Plaid Cymru yn cael eu dychwelyd ym Mis Mai - mae'r amgylchiadau newydd yn mynnu hynny.

1 comment:

Anonymous said...

Pol piniwn YouGov o'r Alban wedi ei ryddhau, yn dangos SNP ar y blaen yn sylweddol (SNP 43%; Llaf. 27%; Tori 15%; Lib Dem 4%) a dangos cefnogaeth I Miliband yn disgyn yn sylweddol!

http://www1.politicalbetting.com/index.php/archives/2014/10/30/yougov-scotland-poll-for-the-times-shows-that-labour-are-in-real-trouble/