Saturday, October 18, 2014

Is setiau Albanaidd y polau Prydeinig

Mae dod i gasgliadau o is setiau polau Prydeinig yn beth eithaf perygl i'w wneud - mae is setiau yn fach sy'n golygu bod y pol yn llai cywir na pholau o 1,000 a does yna ddim sicrwydd bod cydbwysedd cymdeithasegol y sampl yn gywir chwaith.

Ond wedi dweud hynny mae is setiau Albanaidd y polau Prydeinig sydd wedi eu cymryd ers y refferendwm yn hynod gyson eu canfyddiadau.  Maent yn awgrymu bod pleidlais y Lib Dems a Llafur yn chwalu tra bod pleidlais yr SNP yn cynyddu'n sylweddol.  Yn wir mae rhai ohonynt yn awgrymu bod cefnogaeth yr SNP wedi dwblu tra bod pleidlais y Lib Dems a Llafur wedi haneru.  Mae is setiau'r ddau bol diweddaraf yn awgrymu bod Llafur yn drydydd y tu ol i'r Toriaid.  

Mae is set Albanaidd diweddaraf Populus yn rhoi 35% i'r SNP, 24% i'r Toriaid, 21% i Lafur a 10% i'r Lib Dems, tra bod is set Albanaidd diweddaraf YouGov yn rhoi 41% i'r SNP, 20% i'r Toriaid, 19% i Lafur a 9% i'r Lib Dems.  Y canlyniad yn etholiad San Steffan 2010 oedd Llafur 42%, SNP 20%, Lib Dems 17% a'r Toriaid 19%.  

Petai pleidlais y Lib Dems a Llafur yn haneru, un yr SNP yn dwblu a'r Toriaid yn cynyddu eu pleidlais rhyw fymryn mi fyddai etholiad 2015 yn gyflafan.  Os ydi fy syms i yn gywir - ac maen nhw'n amlach na pheidio - byddai gan y Toriaid 5 sedd, Llafur tair, y Lib Dems 2 a'r SNP 49. 

Rwan mae yna amser cyn etholiad 2015, gallwn fentro y bydd y cyfryngau torfol yn gwneud eu gorau fel arfer i droi'r etholiad yn un Brydeinig, gallai Llafur yr Alban wella eu proffeil trwy gael gwell arweinydd na'r greadures di glem sy'n eu harwain ar hyn o bryd.  Gallai pob math o bethau eraill ddigwydd.  

Ond petawn i yn gyfrifol am ymgyrch  Blaid Lafur neu'r Lib Dems Albanaidd, byddwn yn cael cryn drafferth i gysgu'r nos.

1 comment:

Ricahrd Owen said...

Mae'r Blaid Lafur wedi / yn torri bedd iddi ei hun yn yr Alban.