Tuesday, October 07, 2014

Carwyn Jones yn cael ei wobr

Felly er gwaetha'r holl lyfu a llempian yn ystod ymgyrch refferendwm yr Alban gan Blaid Lafur Cymru yn gyffredinol a Carwyn Jones yn benodol, dydi Cameron ddim yn cynnig unrhyw beth i Gymru ag eithrio'r peth diwethaf yn y Byd mae o a'i blaid ei eisiau - pwerau tros dreth incwm.

Mi gofiwch i res o Aelodau Seneddol Llafur wneud eu ffordd i Glasgow i ddweud wrth yr Albanwyr y dylent aros yn y DU, ac i Carwyn fod i fyny ac i lawr fel io io yn bygwth defnyddio ei feto dychmygol i atal yr Alban gael defnyddio'r bunt.  

Os oedd Carwyn yn gobeithio cael diolch gan Cameron, cafodd ei siomi.  Ond ddylai hyn ddim bod yn syndod wrth gwrs - mae bod yn wrthnysig yn ffordd gwell o lawer o gael canlyniadau nag ydi bod yn ufudd.  Mae'r Alban newydd fygwth torri'n rhydd oddi wrth y DU, dydi llywodraethau Prydeinig ddim eisiau i hynny ddigwydd.  O ganlyniad bydd Barnett - sy'n ffafrio'r Alban ar draul Cymru - yn aros.  

Mae Carwyn newydd dreulio amser yn gwneud sioe fawr o'i ufudd-dod - ac o ganlyniad dydi llywodraeth y DU ddim ei ofn o na Chymru.  Ac o ganlyniad y cwbl fydd Cymru yn ei gael ydi'r hyn fydd eraill yn teimlo fel ei roi iddi.  

Wneith pethau ddim newid hyd bod Cymru 'n ethol llywodraeth efo tipyn o asgwrn cefn mae gen i ofn.  

No comments: