Sunday, October 19, 2014

Blas o'r hyn sydd o flaen Llafur Cymru tros y misoedd nesaf

Dydi Cymru a'i phroblemau byth, byth, byth ymysg y meysydd sy'n derbyn sylw mewn etholiadau San Steffan.  Mi fydd Etholiad Cyffredinol 2015 yn wahanol.  Rydym eisoes wedi cael straeon sy'n portreadu Cymru fel gweriniaeth fanana yn y Mail, y Telegraph a'r Express ac mi fydd yna lawer mwy o hynny tros y misoedd nesaf.  Wele dudalen flaen Daily Mail 'fory.

Does gan y cyfryngau print Toriaidd ddim y mymryn lleiaf o ddiddordeb yng Nghymru wrth gwrs.  Y rheswm rydym yn cael y sylw ydi mai dim ond yng Nghymru mae yna weinyddiaeth Lafur yn y DU, ac mi gaiff y weinyddiaeth honno ei beirniadu yn ddi drugaredd am fisoedd yn null unigryw a hysteraidd y papurau Seisnig Toriaidd.  Y wers ar ddiwedd pob stori ydi y bydd Miliband - o gael y cyfle - yn gwneud yr un peth i'r DU a mae Carwyn Jones wedi ei wneud i Gymru.  

Dydi'r Blaid Lafur Gymreig ddim wedi arfer derbyn beirniadaeth cyfryngol gan bod y cyfryngau Cymreig yn ei phoced, ac mae Carwyn yn ymddwyn fel petai rhyw drosedd yn erbyn trefn naturiol y Bydysawd wedi ei gyflawni pan mae'n derbyn beirniadaeth gan wleidyddion y gwrthbleidiau ym Mae Caerdydd.   Bydd yn ddiddorol gweld sut mae Llafur Cymru yn ymateb i'r amgylchiadau anghyfarwydd sydd o'i blaen tros y misoedd nesaf.  

2 comments:

Dylan said...

Trwy bortreadu'r peth fel "war on Wales", siwr o fod. Sinigaidd a diog a jingoistaidd, ond cymharol effeithiol.

Dylan said...

Neu fel hyn