Friday, July 04, 2014

Y Lib Dems - y blaid 5% - a Cheredigion


Ymddengys bod pol diweddaraf YouGov yng Nghymru yn darogan y bydd cefnogaeth y Lib Dems yn hynod gyfartal yn etholiadau'r Cynulliad yn 2016 ac yn etholiadau San Steffan yn 2015 - 5% yn San Steffan, a 5% ar y rhestr ac yn yr etholaethau yn y Cynulliad.  Byddai hyn yn well na pherfformiad y blaid yn etholiadau Ewrop eleni - roedd hwnnw yn nes at 4%.  Gweler ymdriniaeth Roger Scully yma.

Mae sylwadau Roger fel arfer yn drylwyr iawn, ond hoffwn godi un mater bach - mae Roger yn darogan bod y ffigyrau yma'n awgrymu y bydd y Lib Dems yn dal Ceredigion y flwyddyn nesaf.  Dwi'n tueddu i anghytuno.

Mae Roger yn gywir y byddant yn dal y sedd o ddefnyddio'r ffordd draddodiadol o gyfrifo'r pethau yma.  Petai'r Lib Dems yn cael 5% o'r bleidlais ar draws Cymru byddai'n awgrymu cwymp o 15.1% o'r 20.1% a gawsant yn 2010.  Byddai hyn yn awgrymu y byddai pleidlais y Lib Dems yng Ngheredigion yn syrthio o 50% i 34.9% - sy'n uwch na'r 28.3% gafodd y Blaid yn yr etholaeth honno.

Ond mae problem - mae yna nifer o seddi yng Nghymru lle na chafodd y Lib Dems 15% - Arfon, Rhondda, Cwm Cynon, YnysMon a Blaenau Gwent er enghraifft.  Dydi hi ddim yn bosibl i hyd yn oed y Lib Dems gael llai na 0% o'r bleidlais.  Dydi hi ddim yn debygol chwaith y byddant yn mynd yn agos at 0 yn unman chwaith.  O ganlyniad - os bydd amgylchiadau yn aros fel maen nhw heddiw bydd y cwymp yn etholaethau cryfaf y Lib Dems - llefydd fel Ceredigion - yn debygol o fod yn uwch o lawer nag 15%.  Roedd perfformiad y Lib Dems yn etholiadau Ewrop 2014 yng Ngheredigion hefyd yn llawer gwanach nag yn 2009.

Yn ychwanegol at hynny mae'n anodd credu na fyddai'r Blaid yn cael rhywfaint o bleidleisiau cyn Lib Dems yng Ngheredigion - hyd yn oed os nad ydi'r polau cenedlaethol yn gweld cynnydd ym mhleidlais y Blaid.  Byddai'n rhyfedd iawn pe na bai'r unig blaid arall a allai ennill yng Ngheredigion yn cael rhywfaint o'r 6 - 8,000 y bydd y Lib Dems yn eu colli.

Rwan dwi'n gwybod bod Ceredigion yn wahanol - mae'r bleidlais gwrth Plaid Cymru yn tueddu i groni o gwmpas y Lib Dems, gwnaeth y Lib Dems yn gymharol dda yn etholiadau'r Cynulliad yn 2011,  mae Mark Williams (am resymau sy'n ddirgelwch llwyr i mi) yn boblogaidd yn lleol ac mae'r Lib Dems yn enwog o effeithiol am ddal seddi.  Mae yna rhyw elfen o'r Fermanagh South Tyrone am yr etholaeth hefyd - gydag etholiadau yn ymdebygu i gyfrifiadau llwythol ar adegau.  Ond mae hyd yn oed hynny yn wahanol eleni gyda'r ddau brif ymgeisydd efo'u gwreiddiau yn Lloegr.
Gall llawer newid rhwng rwan a 2015 wrth gwrs - ond mi fyddai'n gryn syndod i mi petai'r Lib Dems yn dal y sedd os mai 5% fydd eu cefnogaeth tros Gymru bryd hynny.

6 comments:

BoiCymraeg said...

Cytuno'n llwyr - Ceredigion yn enilladwy iawn i Blaid Cymru yn 2015.

Cofier hefyd bod llawer o fyfyrwyr (prifysgolion Aberystwyth a Llanbedr) yn byw yn yr etholaeth, myfyrwyr a oedd yn debyg o bleidleisio dros y Lib Dems yn 2010 (yng nghanol "Cleggmania") ond sy'n anhebygol iawn o wneud yn 2015 yn dilyn 180'r blaid ar ffioedd dysgu ym misoedd cynnar y llywodraeth bresennol.

Hogyn o Rachub said...

Cytuno i raddau ydw i. Os ydi'r Dems Rhydd yn colli tri chwarter o'u pleidlais yng Nghymru mae'n anodd eu gweld yn dal unrhyw le. Mae Canol Caerdydd yn anobeithiol. Dwnim am Frycheiniog a Maesyfed - bosib fod digon o bobl fanno fyddai'n dal i bleidleisio drostyn nhw i atal y Ceidwadwyr er gwaetha'r glymblaid.

Ac eto, ar bapur o leiaf, mae Ceredigion yn sedd ddiogel iddyn nhw. Roedd canlyniad 2010 yn un eitha rhyfeddol - beryg fod amgylchiadau penodol yr etholiad hwnnw (DRh yn gwneud yn dda yn y seddi a ddalient) yn rhan fawr o hynny - ond serch hynny byddai gwyrdroi mwyafrif mor fawr yn gryn gamp.

Y peth mwyaf gobeithiol i'r Blaid ydi er bod pleidlais y Dems Rhydd yng Ngheredigion efo lot o elfen gwrth-PC, mae'n rhaid bod nifer go dda o'r 19,000 a bleidleisiodd dros y DRh yn 2010 wedi bwrw pleidlais dros y Blaid o'r blaen, felly efallai bod 'na lai o elfen gwrth-PC yn y bleidlais honno nag y byddai rhywun yn ei dybio.

Anonymous said...

Gormod o Saeson erbyn hyn ac mae'r Blaid ar fin colli pob sedd yn y Fro. I bob Mike Parker mae cant sydd yn erbyn unrhywbeth Cymreig.

Anonymous said...

Cofiaf lawer o bobl yn rhagweld llwyddiant i PC yn 2010 yng Ngheredigion, gydag ymgeisydd adnabyddus lleol. Methodd hwnnw. Pam ddylai rhywun hefo llai o gysylltiad lleol na Mark Williams ennill y tro yma ?.

Cai Larsen said...

Oherwydd bod y polau Cymreig yn awgrymu nad ydi'r Dib Lems ddim llawer mwy poblogaidd na'r feirws Ebola ar hyn o bryd.

Anonymous said...

Dim gobaith caneri i guro Mark Williams. Se fe'n sefyll dros y Lwnis se fe dal yn ennil. Ma fe'n ddi-dda ddi-ddrwg ac yn anhygoel o boblogaidd ymlith Cardis a mewnfudwyr.