Sunday, July 06, 2014

Mwy am y Lib Dems

Mae'n ddiddorol bod Mike Priestly -  ymgeisydd y Lib Dems yn Aberconwy yn 2010 a chynghorydd poblogaidd ar Gyngor Conwy - wedi gadael y Lib Dems ac ymuno a'r Blaid Lafur.  Mae'n debyg bod hyn yn un adlewyrchiad arall o'r chwalfa yng nghefnogaeth plaid Kirsty Williams yng Nghymru.

Un o nodweddion trawiadol pol diweddaraf YouGov ydi cyn lleied o newid sydd yng nghefnogaeth y Toriaid a Phlaid Cymru o gymharu a 2010.  Yn wir does na ddim cynnydd mawr yng nghefnogaeth Llafur - llai na 5%.  Y newidiadau mawr ydi'r cwymp sylweddol yng nghefnogaeth y Lib Dems (colli tri chwarter eu pleidlais) a'r cynnydd mawr yng nghefnogaeth UKIP.

Mae'n ymddangos felly bod y rhan fwyaf o ddigon o'r pleidleisiau fydd ar gael yn 2015 yn dod oddi wrth cyn gefnogwyr y Lib Dems.  Ar hyn o bryd mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o'r pleidleisiau yma'n mynd i Lafur ac UKIP.  Ond dydi hynny ddim yn gorfod digwydd.  Maen nhw trwy ddiffiniad yn bleidleisiau anwadal.

Beth am edrych am funud ar yr etholaeth roedd Mike Priestly yn sefyll ynddi yn 2010?  Petai'r Lib Dems yn colli cymaint o bleidleisiau na mae YouGov yn awgrymu yna byddai tua 4,400 o'r 5,786 pleidlais a gafodd Mike Priestly yn 2010 ar gael i rhywun neu'i gilydd.  Byddai hynny'n hen ddigon i roi Llafur o flaen y Toriaid, ac yn wir petai ymgeisydd y Blaid, Dafydd Meurig, yn dod ar draws naratif fyddai'n apelio at fwyafrif da o'r cyn Lib Dems mi fyddai Aberconwy yn fwyaf sydyn yn sedd ymylol dair ffordd.

Yn amlwg mae denu canran uchel o gyn bleidleiswyr plaid arall i un corlan yn beth hynod o anodd i'w wneud, ond cyn bleidleiswyr Lib Dems ydi'r garfan mwyaf niferus o bobl sydd ar gael.  Mae unrhyw un sydd eisiau gwneud yn dda yn etholiad 2010 angen strategaeth i apelio at y garfan sylweddol yma o bleidleiswyr.

8 comments:

Anonymous said...

Cytuno.
Y drafferth ydy, Pwy neu'n hydrochloride beth yw'r lib Dems? Mae lib Dems aberconwy am fod yn wahanol i Libs Wrecsam, er emghraifft.
Hyd y gweld i does gan y Libs ddim un peth yn eu gyrru, dim eidioleg, dim sum raison d'etre. Sut felly mae llunio naratif ar gyfer grwp o bobl o'r father?
Her I ti!

Cai Larsen said...

Dyna ydi'r peth - mae Lib Dems Aberconwy yn wahanol i rai Arfon sy'n wahanol i rai Ceredigion sy'n wahanol i rai Canol Caerdydd - ac ati.

Anonymous said...

Ydi Rhun Ap Iorwerth yn arddel yr un barn am ynni niwcliar a Phlaid Cymru y Rhondda ? Cafodd Michael Huggett ei erlid am feiddio awgrymu'r peth . A yw barn Dafydd Ellis Thomas am yr Iaith Gymraeg yn cyfateb i un y gweddill ohonom o fewn y Blaid ? Go brin. Llais Gwynedd neu peidio, yn eu henw nhw mae'r cenedlaetholwr yn sefyll.

Cai Larsen said...

Dwi'n meddwl dy fod o bosibl wedi cam ddarllen y darn - mae'n ymwneud a beth sydd am ddigwydd i bleidlais y Lib Dems yn 2015.

Ti wedi cam ddeall y stori Michael Haggett hefyd. Fy nealltwriaeth i o ddarllen ei flog ydi bod proses ddisgyblu yn mynd rhagddi oherwydd iddo ymosod yn bersonol ar unigolion o fewn y Blaid a cheisio tanseilio ymgyrch etholiadol.

Anonymous said...

Oni yn meddwl bod y ddynas Llais Gwynedd na o Sir Feirionnydd ond yn ymosod ar bolisi iaith Gwynedd wythnos neu ddwy yn ol.

Anonymous said...

Mae na wahaniaeth rhwng cefnogwyr Lid Dems ac aelodau Lib Dems dwi'n credu. Gwnaeth lot o bobl bleidleisio dros y Lib Dems yn 2010 oherwydd ymgyrch effeithiol "none of the above" Nick Clegg, hynny yw, dim sylwedd ideolegol reali, jyst peidio a bod yn David Cameron neu Gordon Brown... apelio uwchlaw gwleidyddiaeth... apelio at a "better form of politics".

Un peth arall Cai. Dwi ddim yn credu bod pleidlais Lib Dem yn mynd yn syth i UKIP o gwbl. Mae na drosglwyddiad lluosol ar waith yma dwi'n credu:

Mae pleidlais LD yn mynd yn ôl i Lafur, i'r Toriaid ac i'r Blaid i ryw raddau, tra bod rhan o bleidlais Llafur a Thori yn mynd i UKIP.

Effaith net yw bod pleidlais UKIP yn codi, LD yn syrthio, a'r gweddill yn ymddangos fel mae nhw ddim wedi newid.

Dyna sut dwi'n gweld y sefyllfa o leia.

Phil Davies

Anonymous said...

Cai bydd yn ofalus rhag clochdar dros dranc y LibDems. I Lafur mae llawer ohynynt yn mynd. Mae felly yn cadarnhau system 2 blaid sydd yn gwasgu Plaid Cymru.

Yr unig obaith i Blaid Cymru mewn llawer o seddi (pob un?) yw fod y 3 Blaid Brydeinig (4 efo UKIP) yn weddol gryf gyda 20%+ o'r bleidlais. Dydy LibDems yn mynd i Lafur (prin iawn iawn yw'r rhai sy'n mynd i Blaid Cymru) ddim yn newyddion da.

M.

Twm said...

Deall pwynt M. Yn yr byr tymor mae gostyngiad yn bleidlais y Libs o bosib yn helpu Llafur yn fwy na'r Blaid.

Ond yn yr hir dymor mae rhaid i'r blaid cymryd y pleidleisiau "left of centre", Cymru di-Cymraeg sydd ddim yn instutionalised Llafur. Er mwyn fod yn wrthblaid o difri.

Mae'r Blaid wedi llwyddo neud yn sir Caerffili ac i raddau yn RCT a chastell Nedd. Y Libs wnaeth llwyddo yn Merthyr, Benybont, Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe. Annibyns wnaeth wneud yn Blaenau Gwent ac i raddau Torfaen.

Mae'r pleidleiswyr wnaeth benderfynnu pleidleisio yn erbyn Llafur (etholiad lleol 2008 yn enwedig) yn debyg iawn i'w gilydd. Y beth wnaeth penderfynnu os Lib, PC neu Annibynnwyr byddynt yn pleidleiso amdanynt oedd lefel waith y bleidiau lleol.

Mae dranc y Libs yn cyfle auraidd i'r Blaid cymryd ei lle fel yr "alternative" mewn nifer o seddi ond mae reali rhaid gafael ar y cyfle.