Tuesday, July 22, 2014

Guto Bebb, y Toriaid a gwrth Semitiaeth

Un o'r anghytundebau bach fydd yn dod i'r wyneb o bryd i'w gilydd  rhwng Blogmenai ag aelod seneddol Aberconwy sydd gen i heddiw.

Rwan ar un olwg mae Guto'n gywir.  Mae yna hanes o wrth Semitiaeth yn yr Iwerddon.   Mae'n debyg bod Guto wedi ymgyfarwyddo ei hun a thri llyfr ar Foicot Limerick yn 1904 - cyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at niweidio eiddo Iddewig a boicotio eu siopau.  Cafwyd gwrthdystiadau gwrth Iddewig yn Nhredegar saith neu wyth mlynedd yn ddiweddarach gyda llaw.

Ond mae yna hanes o wrth Semitiaeth ym mhob rhan bron o'r byd Cristnogol - mae cred wedi bodoli yn Ewrop o leiaf ers yr Oesoedd Canol cynnar ei bod yn briodol cosbi'r Iddewon yn dorfol  am groeshoelio Crist.

Arweiniodd y gred yma at drychinebau gymunedau Iddewig di rif.  Cafodd Iddewon Ewrop eu herlid yn ystod y Croesgadau - yn arbennig felly yn Ffrainc a'r Almaen.  Yn y ganrif ddilynol cafodd Iddewon Sbaen,  Lloegr, Ffrainc ac Awstria eu hel o'u cartrefi a'u gwledydd.  Cafodd yr Iddewon y bai am y Pla Du yn rhannau o Ewrop a'u herlid oherwydd hynny.  Yn niwedd y 19C cafodd llawer o Iddewon Ewrop eu hel i getos a dyfeiswyd trethi arbennig ar eu cyfer.  Cafwyd cyfres hir o bogroms gwrth Iddewig yn Rwsia pan laddwyd nifer sylweddol o Iddewon rhwng 1880 ac 1917.  Mae hanes Iddewiaeth yn Ewrop yn 30au a 40au y ganrif ddiwethaf yn adnabyddus a wna i ddim mynd i fanylu ymhellach ynglyn a'r erchylldra yna.

 Yn y cyd destun Ewropiaidd ehangach mae gwrth Semitiaeth Gwyddelig (a Chymreig) yn weddol ddi ddim - os cwbl anerbyniol.  Felly pam bod Guto yn dewis Iwerddon - un o'r ychydig wledydd yn Ewrop lle na chafodd yr un Iddew ei ladd oherwydd ei grefydd - i'w harenwi'n benodol fel gwlad gwrth Semitig? A pham mae o'n trafferthu darllen tri llyfr am foicot ar ddigwyddiad cyfyng, na arweiniodd at farwolaethau ac a gafodd ei gondemnio gan yr awdurdodau seciwlar ac eglwysig?  A pham ei fod yn defnyddio'r term 'pogrom' pan nad ydi'r awdurdodau Israelaidd nag Iddewon Limerick yn fodlon defnyddio'r term yng nghyswllt Boicot Limerick?  Mae'n weddol gyffredin i bardduo gwrthwynebwyr gwleidyddol efo'r tag 'gwrth semitaidd' neu 'ffasgaidd', er mai'r Chwith gwleidyddol sy'n euog o hynny gan amlaf.  Ond mae'n dra anarferol i ddefnyddio'r term i bardduo cenedl gyfan.  Felly pam gwneud hynny yma? Guto ei hun sy'n gwybod yr ateb i honna wrth gwrs.

Ta waeth - petai Guto yn chwilio gallai ddod o hyd i lawer o ddyfyniadau gwrth Semitaidd gan Wyddelod o pob perswad gwleidyddol yn ystod hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf. Mae'n ymddangos ei fod wedi gwneud hynny yn achos Saunders Lewis, ac am wn i ei fod yn gyfarwydd a'r llond dwrn o ddyfyniadau gwrth Semitaidd roedd yn gyfrifol amdanynt.  Ond gallai fod wedi darganfod llawer, llawer mwy o sylwadau gwrth Semitaidd a wnaethwyd gan aelodau o'r prif bleidiau Prydeinig - rhai'r Dde, y Canol ac yn wir y Chwith.  Nid y Blaid Doriaidd oedd yr unig bechaduriaid yn hyn o beth - ond does yna ddim dwywaith bod llawer o'i haelodau yn y blynyddoedd cyn RhB2 yn arddel credoau cwbl wrth Semitaidd.

Dwi ddim yn meddwl gyda llaw bod y rhan fwyaf o'r bobl hyn yn bwriadu peri unrhyw niwed i Iddewon - roedd gwrth Iddewiaeth di hid yn rhan o idiom y cyfnod.

 Un ffordd o ddangos natur disgwrs wleidyddol yr oes ydi edrych ar y wasg.  Heddiw mae'r Daily Mail yn pedlera casineb tuag at Fwslemiaid a mewnfudwyr eraill.  Dim ond Iddewon oedd ar gael i bwrpas myllio senophobaidd cyn y Rhyfel, felly Iddewon oedd yn ei chael hi gan y papur a'i berchenog boncyrs - Viscount Rothemere.







A chyn ein bod ni wrthi waeth i ni gynnwys llun bach del o Rothemere efo'i arwr.  


Nid llun o dim pel droed yr Almaen a geir isod, ond llun o dim pel droed Lloegr yn ol yn 1938.  Rwan dwi'n siwr nad oedd y rhan fwyaf o aelodau'r tim efo daliadau Natsiaidd, ond roeddynt yn ymddwyn yn y ffordd ryfedd yma oherwydd bod y Swyddfa Dramor wedi gofyn iddynt wneud hynny.  Roeddynt yn chwarae gem yn erbyn yr Almaen, ac roedd y Swyddfa Dramor eisiau iddynt ddangos parch at Ganghellor yr Almaen.  Y Blaid Doriaidd oedd mewn grym, ac roedd yr erledigaeth o Iddewon yn yr Almaen wedi hen, hen ddechrau.


A dyna ydi'r ffaith wrth gwrs - o pob prif blaid yn y blynyddoedd cyn y rhyfel roedd gwrth Semitiaeth a chydymdeimlad at y Dde eithafol yn Ewrop yn nodweddu'r Blaid Doriaidd yn annad yr un blaid arall.  Tua'r un pryd a Boicot Limerick ffurfwyd mudiad yn nwyrain Llundain o'r enw The British Brothers League.  Er nad oedd y mudiad yn wrth Semitaidd ar y cychwyn, datblygodd i fod yn fudiad gwrth Iddewig yn weddol gyflym.  Roedd o leiaf dau aelod seneddol Toriaidd yn rhan o'r mudiad - Major Evans-Gordon a Howard Vincent.  Roedd G.K Chesterton ac Arthur Conan Doyle yn gefnogwyr gyda llaw.

Roedd ymateb Prydain i'r pogroms yn Rwsia yn datw poeth gwleidyddol yn ystod y cyfnod 1890 - 1906.  Roedd y Toriaid eisiau gwahardd yr Iddewon oedd yn cael eu herlid yn Rwsia rhag cael lloches ym Mhrydain, tra bod y Rhyddfrydwyr yn ystyried gwaharddiad o'r fath yn anfoesol.  Yn y diwedd llwyddodd y Toriaid i weithredu'r Aliens Act yn 1905 - darn o ddeddfwriaeth oedd yn gwahardd pobl nad oedd a ffordd o gynnal eu hunain (fel pobl oedd yn dianc rhag pogroms er enghraifft) yn llwyr.  Gellir cael blas o'r ymgyrch i ffurfio'r ddeddf gan y wasg Asgell Dde o'r sylw hwn yng ngholofn golygyddol oedd yn argymell yr Aliens Act y Manchester Evening Chroniclethat the dirty, destitute, diseased, verminous and criminal foreigner who dumps himself on our soil and rates simultaneously, shall be forbidden to land

Y peth rhyfedd ydi bod gwrth Semitiaeth yn gymaint o ran o fyd olwg Toriaid yn y cyfnod cyn y rhyfel nes bod hyd yn oed arwyr Zionistiaidd Toriaidd yn aml yn wrth Semitaidd.  Winston Churchill er enghraifft:

The part played in the creation of Bolshevism and in the actual bringing about of the Russian Revolution by these international and for the most part atheistic Jews ... is certainly a very great one; it probably outweighs all others. With the notable exception of Lenin, the majority of the leading figures are Jews. Moreover, the principal inspiration and driving power comes from Jewish leaders ... The same evil prominence was obtained by Jews in (Hungary and Germany, especially Bavaria).

Although in all these countries there are many non-Jews every whit as bad as the worst of the Jewish revolutionaries, the part played by the latter in proportion to their numbers in the population is astonishing. The fact that in many cases Jewish interests and Jewish places of worship are excepted by the Bolsheviks from their universal hostility has tended more and more to associate the Jewish race in Russia with the villainies which are now being perpetrated


Yn anhygoel i'r sylwebydd cyfoes  mae'n ymddangos bod Arthur Balflour - awdur Datganiad Balflour - dogfen a ddaeth i fod yn un o gonglfeini'r ymdrech i sefydlu gwladwriaeth Iddewig - yn wrth Semitaidd ei hun.  Un o'r prif resymau pam roedd am sefydlu gwladwriaeth Iddewig oedd i gael gwared o Iddewon o Brydain.

 If [Zionism] succeeds, it will do a great spiritual and material work for the Jews, but not for them alone. For as I read its meaning it is, among other things, a serious endeavour to mitigate the age-long miseries created for western civilisation by the presence in its midst of a Body which it too long regarded as alien and even hostile, but which it was equally unable to expel or absorb. Surely, for this if for no other reason, it should receive our support.

Rwan 'dwi'n sylweddoli bod ychydig o beryg i mi syrthio i'r trap y syrthiodd Guto iddo - barnu oes o'r blaen efo safonau oes fy hun a dod i gasgliadau ysgubol a hysteraidd sy'n ymwneud a'r presenol  - er fy mod wrth gwrs yn tynnu sylw at bolisi cyhoeddus y Toriaid a'u harweinyddiaeth yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf - yn hytrach na thynnu sylw at foicot ynysig  does fawr neb wedi clywed amdano - ac yn defnyddio hynny i bardduo cenedl gyfan.  Ond y ffaith syml amdani ydi bod amwyster hyd heddiw yn y Blaid Doriaidd am y pwnc yma. 

 Y grwp mae'r Toriaid yn perthyn iddo yn senedd Ewrop ydi'r ECR.  Mae'r grwp yn un  - ahem - 'dewr'.  Dydyn nhw heb gael trafferth derbyn  aelodau o blaid Pwylaidd sydd wedi cysylltu eu hunain efo'r offeiriad gwrth Semitaidd - Tadeusz Rydzyk, mae un o aelodau'r blaid honno yn gwadu i nifer fawr o Iddewon gael eu lladd gan y Natsiaid.  Derbyniodd y grwp hefyd gynrychiolwyr Latfiaidd sydd a  hanes o drefnu gorymdeithiau i gofio Waffen-SS Latfia.  Yn wir mae Michal Kaminski - sydd wedi arwain y grwp - efo hanes o wisgo symbolau Natsiaidd a dadlau na ddylai Gwlad Pwyl ymddiheuro am bogrom (gwrth Iddewig) Jedwabne ym 1941.

Rwan, dydi hi ddim yn bosibl i Guto effeithio ar foicot Limerick ym 1904 ag eithrio i'w godi a'i chwyddo i bwrpas pardduo Gwyddelod.  Dydi hi ddim chwaith yn bosibl iddo atal Saunders Lewis rhag yngan llond dwrn o sylwadau gwrth Iddewig yn y tri degau, ag eithrio i bwrpas parddup Plaid Cymru.  Dydi hi ddim hyd yn oed yn bosibl iddo effeithio ar wrth Semitiaeth rhemp ei blaid ei hun yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf.  Ond gallai'n hawdd roi pwysau ar ei blaid  i beidio a chyngrheirio efo elfennau gwrth Semitaidd ar y funud hon.  Onid yw'n fodlon gwneud hynny gallwn gymryd nad ydi'r tantro am wrth Semitiaeth yn ddim mwy na gorchest ac ymgais i sgorio pwyntiau rhad yn erbyn gwledydd a phleidiau nad yw yn ei hoffi.  Mae hynny'n sarhad ar y miliynau trwy'r oesoedd sydd wedi dioddef o ganlyniad i wrth Semitiaeth.  





16 comments:

Guto Bebb said...

Y pwynt allweddol ydi dy sylw cyntaf "mae Guto Bebb yn gywir". Am y gweddill dwi'n falch fod fy sylwadau wedi dy berswadio i roi llith mor faith, llafurus ac ail adroddus at ei gilydd ar ddiwrnod braf o haf. Tipyn o ymroddiad.

Serch hynny, braf sylwi ein bod wedi mynd o dy ddatganiad fy mod yn creu hanes lle nad yw'n bod i dy sylw fy mod yn gywir. Cyfaddefiad unigryw gennyt Cai a chyfaddefiad y byddaf yn ei drysori.

Cai Larsen said...

Ti yn creu hanes trwy dynnu sylw at y brycheun yn llygad dy frawd tra'n anwybyddu'r trawst yn dy lygad dy hun.

Pam pardduo cenedl oherwydd un digwyddiad - defnyddio term ymfflamychol nad ydi Iddewon Limerick yn ei arddel - i bwrpas pardduo cenedl?

Gyda llaw - wyt ti wedi cwyno am gysylltiadau gwrth Semitaidd cyfoes dy blaid dy hun - ta ti'n gadael i honna fynd?

Guto Bebb said...

O Csi, ti jyst ddim yn gwybod pryd ti di colli. Nid un esiampl y bu i mi gynnig ond nifer. Fel gyda'r achos yn Limerick fe fyddai chydig o ymchwil ar dy ran yn dangos mai fi sy'n gywir.

O ran gweddill dy bwynt - amherthnasol. Mae'r ddadl hon wedi codi oherwydd i ti benderfynu rhoi llith ffeithiol anghywir st ei gilydd er mwyn ymdrechu i bardduo un trydar gennyf am gefndir sylwadau Adams. Ti bellach yn derbyn y cefndir hwnnw felly fe ddylet ystyried ymddiheuro am dy gyhuddiad fy mod yn creu hanes.

Dwi'n siwr fod yna unigolion efo agweddau digon hyll am Iddewon o fewn y blaid Geidwadol ond tydi hynny yn ddim oll i wneud a'r ddadl - jyst ymdrech wan i gael chdi dy hun allan o dwll grewyd gan dy ddiffyg gwybodaeth.

Cai Larsen said...

Dau gwestiwn.

1. Pam ti'n dewis Iwerddon i'w harenwi fel gwlad efo hanes gwrth Semitaidd - er ei bod efo hanes llai gwrth Semitaidd na nemor yr un wlad arall yn Ewrop?
2. Beth wyt ti wedi ei wneud i annog dy blaid i ymbellhau oddi wrth pleidiau Ewropiaidd gwrth Semitaidd?

Dim ensyniadau personol plis, dim whataboutery - jyst atebion dealladwy plis.

Anonymous said...

Yn y bon dadl GB ydi hyn - Mae Jimmy Savile yn Sais. Mae jimmy Safil yn pido. Felly mae Saeson yn pidos. Idiot.

Anonymous said...

Neu be am hon - mae Steven Crabb yn aelod seneddol Toriaidd. Mae Steven Crabb wedi fflipio ei dy er mwyn godro pres gan y trethdalwr. Felly mae aelodau seneddol Toriaidd yn fflipio eu tai er mwyn godro'r trethdalwr.

Anonymous said...

Nid moment mwyaf batch y Bebbfeistr!
Nid yn unig fod y Nationwide wedi cychwyn lladd yr Iddewon yn 1938, ond round Llywodraeth Geidwadol Prydain yn 'complicit'. Fe wrthododd Llywodraeth Prydain a derbyn Iddewon bryd hynny, ac yn achos rhai eu danfon yn ol!
Da iawn Guto! Ar ochr y cyfiawn unwaith eto #coegni

Anonymous said...

Felly mae Guto Bebb yn meddwl fod elfennau gwrth-Semitaidd yn Iwerddon yn warthus, ond bod elfennau gwrth-Semitaidd o fewn ei blaid ei hun yn "amherthnasol". Mae'r math yma o sgorio pwyntiau gwleidyddol plentynnaidd yn wyneb y dioddefaint sy'n digwydd yn Gaza yn gwbl annerbyniol, a dylai Guto Bebb fod â chywilydd o'i ymddygiad.

Anonymous said...

'Suppressio veri' yw enw y dechneg rethregol glasurol mae Guto yn ei defnyddio. Mae llawer o wleidyddion yn ei mabwysiadu (bron yn reddfol) achos mae'n mor effeithiol yn erbyn y rhai sy ddim yn gyfarwydd â'r ffeithiau.

Guto Bebb said...

Dau gwestiwn hurt arferol gan Cai. Gan mai ymateb i sylw Gerry Adams y bu i mi wneud fe fyddai'n rhyfeddol i mi drafod hynny mewn cyd-destun Sbaenaidd neu Bwylaidd. Pwynt braidd yn amlwg hyd yn oed i ti fe dybiaf.

O ran dy ail bwynt dwi di awgrymu y dylid cadw'n glir oddi-wrth yr European Free Alliance. O ystyried agweddau rhai o'r aelodau falle y dylet gael gair efo dy Blaid.

O ran y cwn bach dewr di-enw. Tyfwch rai!

Cai Larsen said...

Ond dwyt ti ddim yn dweud nad ydi'n syndod bod Jill Evans yn beirniadu Israel ag ystyried hanes gwrth Semitaidd Cymru, a dwyt ti ddim yn dweud chwaith nad ydi beirniadaeth Claire Short o Israel yn syndod ag ystyried hanes gwrth Semitaidd Lloegr. Swnio fel rhagfarn gwrth Wyddelig i mi a dweud y gwir.

Pam ti'n meddwl bod dy blaid yn hapus i gynghyreirio efo gwrs Semitiaid? Rhywbeth i 'neud efo'i hanes gwrth Semitaidd o bosib?

Guto Bebb said...

Tydi Jill druan na Clare Short heb ofyn am ddileu cysylltiafau diplomataidd gydag Israel a tydi clywed Jill yn som am drueniaid di-niwed yn marw ddim cweit mor gyfoglyd a chlywed dy arwr yn gwneud hynny.

Guto Bebb said...

Gyda llaw, mae clywed awdur Blog Menai yn cwyno am ragfarn yn ddoniol dros ben. Fuodd 'na erioed fyd olwg mor ragfanllyd a'r hyn ti'n gyflwyno o fewn Blog Menai i dy gynulleidfa o gwn bach dewr di-enw?

Cai Larsen said...

Ti'n bod yn afresymegol.

Dydi union alwad gwahanol wleidyddion ddim yn effeithio ar wrth Semitiaeth eu gwledydd.

Ti'n rwdlan braidd a dweud y gwir.

Wyt ti'n meddwl bod hapusrwydd dy blaid i gynghreirio efo gwrth Semitiaid yn rhywbeth i 'neud efo'i hanes, ta jyst licio nhw'n bersonol mae'r hogs?

Guto Bebb said...

Waeth i ti heb Cai. Ddaru mi wneud honiad. Ddaru ti ymosod arno. Fe gyflwynais ffeithiau. Fe ddaru ti dderbyn nhw. Tydi'r gweddill yn ddim mwy na dy rwystredigaeth ac ymdrech go wan i newid y pwynt. Am unwaith tydi dy gyflwyniad ohonot dy hun fel cradur holl wyboduss heb lwyddo. Derbyn y peth a symuda mlaen.

Cai Larsen said...

Pam bod datganiad sy'n groes i bolisi Israel yn gan Wyddel yn adlewyrchu 'hanes gwrth semitaidd' y wlad honno pan nad ydi datganiadau tebyg gan Gymry neu Saeson yn adlewyrchiad ar wrth Semitiaeth Cymru a Lloegr? Dydi cyfeirio at faint ti'n cael y myll wrth wrando ddim yn ateb rhesymegol.

Pam bod dy blaid yn hapus i gyngrheirio efo gwrth Semitiaid! Ydi hynny yn deillio o hanes gwrth Semitaidd dy blaid?

Tria osgoi ymysodiadau personol wrth ateb plis.