Monday, July 14, 2014

Diswyddo David Jones

Felly mae David Jones wedi cael yr hoe gan David Cameron gwta ddwy flynedd cyn cael ei benodi i'r swydd ddiwerth yma.  Dydi o ddim yn glir i mi beth yn union ydi pwrpas y swydd yn yr oes ddatganoledig sydd ohoni.  Yn sicr does gen i ddim clem beth oedd David Jones a'i is weinidogion, Stephen Crabb a Jenny Randerson yn ei wneud i lenwi'r dyddiau maith, di ddiwedd.

Rydym yn gwybod bod rhywfaint o'u hamser yn cael ei ddefnyddio yn edrych ar ddeddfwriaeth llywodraeth Cymru i bwrpas ei herio yn y llysoedd.  Mi aeth David a deddf gyntaf Cynulliad Cymru i'r llysoedd mewn ymgais aflwyddiannus i 'w gwrthdroi.  Rydym hefyd yn gwybod o ddatganiadau cyhoeddus David mai prif nodwedd ei gyfnod fel ysgrifennydd gwladol oedd chwilio am pob cyfle i fynegi'r gred bod pob dim llawer gwell yn Lloegr nag yng Nghymru.

Mae'n ormod i obeithio amdano y bydd y swydd a Swyddfa Cymru yn cael eu diddymu.  Ond dyna ddylai ddigwydd - mae'n swydd a'r swyddfa yn agweddau ar fywyd gwleidyddol Cymru sydd wedi goroesi o oes arall.  Mae gweld David a'i is weinidogion n mynd trwy'i pethau tipyn bach fel mynd i dy rhywun mewn oed mawr a gweld mangl, teipiadur, recordydd tap a phadell cynhesu gwely.

2 comments:

Anonymous said...

Unig bwrpas i Ty Gwydr (Swyddfa Cymru) yw ei gadw'n gynnes nes y bydd yn adeilad ar gyfer Llysgenhadaeth Cymru annibynnol yn Llundain!

Vaughan Williams said...

Roedd David Jones yn ceisio stopio datganoli pellach i'n cenedl trwy'r amser. Mae'n dda ei fod wedi mynd, diddorol iawn oedd ei farn am hoywon yn magu plant (neu eu 'methiant' i wneud hynny) a'i ddisgrifiad ohono fo'i hun fel 'Cymro-balch'.
Fydd llyfrau hanes ein cenedl ddim yn son llawer amdano. Goodbye David!