Saturday, July 19, 2014

Darlith John Bwlchllan yng Nghlwb Canol Dre - Iwerddon a Chymru

Dwi newydd dreulio awr yn gwrando ar John Davies, Bwlchllan yn traddodi araith yng Nghlwb Canol Dre ar y tebygrwydd a'r gwahaniaeth rhwng Cymru a'r Iwerddon yn y 19C.

Dwi'n gwneud cam a John i grisialu ei thesis i ychydig frawddegau, ond mi wna i hynny beth bynnag.  Roedd John yn tynnu sylw at y ffaith bod tebygrwydd rhwng bywyd cymdeithasol ac economaidd Cymru ac Iwerddon yn ystod y cyfnod - roedd y niferoedd o siaradwyr Cymraeg a Gwyddelig yn debyg, roedd y canrannau nad oeddynt yn aelodau o'r Eglwys Anglicanaidd yn debyg, roedd tebygrwydd rhwng patrymau perchnogaeth tir a gwleidyddiaeth gwledig, ac roedd yna debygrwydd mewn gwleidyddiaeth ehangach.

Roedd serch hynny hefyd yn tynnu sylw at wahaniaethau mwy arwyddocaol - gan awgrymu bod llawer o'r hyn sy'n ymddanos yn debyg mewn gwirionedd yn arwynebol.  Roedd llai o lawer o bobl Cymru yn gweithio ar y tir, roedd y Gymraeg ar gynnydd tra bod y Wyddeleg ar y ffordd i lawr, roedd yr Eglwys Babyddol yn sefydliad cryf rhyngwladol , yn wahanol i'r enwadau cecrys Cymreig, ac roedd gan yr Iwerddon lawer iawn o ddylanwad rhyngwladol oherwydd bod cymaint o Wyddelod yn symud dramor yn hytrach nag i rannau eraill o'u gwlad eu hunain.

Mae'r hyn ddigwyddodd yn 20C wedi ei gysylltu a hyn oll wrth gwrs - aeth y ddwy wlad i gyfeiriadau cwbl wahanol yn y ganrif honno wrth gwrs.

Cododd Dafydd Wigley gwestiwn y newyn ar y diwedd, a chytunodd John bod y chwerder a achoswyd yn sgil hynny wedi bod yn ffactor yn y ffaith i Iwerddon dorri oddi wrth y DU yn negawdau cynnar yr 20C.

Rwan, dwi'n siwr bod dadansoddiad John at ei gilydd yn gywir, ond un gwahaniaeth na dynnodd sylw ato oedd y ffaith bod syniadaethau genedlaetholgar cryf eisoes yn bodoli yn yr Iwerddon, tra nad oedd hynny'n wir yng Nghymru.  Ymhellach roedd un o'r syniadaethau hynny - yr un a orfu yn y diwedd - wedi ei gwreiddio yn nhraddodiad gweriniaethol ehangach Ewrop.

Roedd Henry Grattan wedi arwain mudiad gwleidyddol genedlaetholgar  yn y 1780au, roedd Wolfe Tone wedi arwain mudiad felly yn y 1790au, ac felly Robert Emmet a James Concoran yn yr 1890au. Wedyn daeth Young Ireland i fodolaeth yn yr 1830au,  Roedd elfen filwrol i'r rhan fwyaf o'r mudiadau hyn - ac roedd gwrthryfela milwrol yn erbyn y wladwriaeth Brydeinig hefyd yn eu nodweddu.  Roedd dylanwad ideoleg y Chwyldro Ffrengig hefyd yn gryf arnynt.

Doedd yna ddim traddodiad ideolegol felly yng Nghymru.  Oherwydd diffyg syniadaethau cynhenid a chenedlaetholgar, syrthiodd Cymru i mewn i batrwm gwleidyddol ehangach y DU yn negawdau cynnar y 20C.  Wnaeth hynny ddim digwydd yn yr Iwerddon oherwydd bod fframwaith syniadaethol cynhenid mewn lle - ffaith oedd yn caniatau i'r wlad gymryd llwybr gwleidyddol amgen ganrif a mwy wedi sefydlu'r fframwaith honno.

Rwan, dwi ddim yn amau bod John yn gwbl gywir i dynnu sylw at wahaniaethau gwaelodol rhwng Cymru ac Iwerddon yn 19C, ond mi fyddwn yn dadlau bod methiant Cymru i ddatblygu ymateb deallusol cynhenid i'r hyn ddigwyddodd yn Ewrop yn niwedd yr 18C yn un o'r prif ffactorau sy'n egluro pam nad  ydym wedi datblygu gwleidyddiaeth aeddfed ein hunain hyd heddiw.

6 comments:

Anonymous said...

Maddeuwch i mi fynd ar drywydd ychydig yn wahanol.

Wedi meddwl tipyn yn ddiweddar am y sefyllfa yn yr alban, ai chymharu gyda honno yn iwerddon.

Beth petai y gwrthryfel yn 1916 wedi meth(buodd yn o agos at fethu - llofruddiaeth Connolly ayb). Ac iwerddon dal yn rhan o brydain hyd heddiw. Gwrthryfeloedd 1942, 1952, 1962 hefyd yn anflwyddianus...

Cofiwch felly byddai hyn yn golygu yr holl ynys gan gynnwys ulster a chanrif yn ychwanegol o fod yn rhan o fanteision/ cysylltiadau 'Prydain'. Digon o boblogaeth cynhenid y weriniaeth o blaid annibyniaeth amwn i- ond byddai 'Gwyr busnes' y weriniaeth ar protestaniaid yn sicrhau cynlyniad agos - mi fyddwn yn rhyw feddwl ma 'ia' fyddai y canlyniad, ond dal yn eitha agos.

Cai Larsen said...

Wel mi fethodd 1916 wrth gwrs - llwyddiant rhannol yr IRA mewn rhyfel arall digon mileinig ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach a llwyddiant y Wladwriaeth newydd yn y rhyfel cartref arweiniodd at y Wladwriaeth Rydd.

Pe byddai 1916 heb ddigwydd, mae'n debyg na fyddai'r ddwy ryfel arall heb ddigwydd chwaith - er nad ydi hynny'n sicr o bell ffordd. Efallai na fyddaiSinn Fein wedi cymryd pleidleiswyr yr Irish Nationalist Party ac y byddai'r rheiny wedi parhau i ddominyddu. Ond ni fyddai wedi bod yn bosibl ffurfio llywodraeth yn San Steffan heb eu cefnogaeth. Byddant wedi mynnu datganoli, a byddai hwnnw wedi arwain at annibyniaeth fel y gwnaeth yn Awstralia, Canada a Seland Newydd.

Ond os a phetai ydi hyni gyd wrth gwrs - fydd 'na neb yn gwybod byth - mae'n bosibl chwarae gemau os a phetai efo rhyw sefyllfa hanesyddol.

Anonymous said...

Gwrthryfel y pasg wedi bod yn llwyddianus o ran cychwyn y momentwm tuag at annibyniaeth oedd gennyf dan sylw wrth gwrs- nid gorychafiaeth filwrol.

Ioan said...

Edrych ar
http://politicalbookie.wordpress.com/2014/07/18/the-11-seats-in-wales-that-could-change-hands-in-2015/

Colli Arfon yn lot fwy tebygol na enill Ynys Mon...

Cai Larsen said...

Wedi ei weld Ioan - mi wna i glogiad arno heno neu 'fory.

Efrogwr said...

Ie, wir. Mae gan Simon Brooks ddadl debyg, am fethiant ideolegol y mudiad cenedlaethol/mudiad iaith yng Nghymru, yn fan hyn: http://www.cronfagoffasaunderslewis.org/wp-content/uploads/2012/05/pamybufarweinhiaith-simonbrooks.pdf