Thursday, July 24, 2014

Betio gwleidyddol ac etholaethau Cymreig

Mae na un neu ddau wedi gofyn i mi wneud rhywbeth ar y darogan etholiadol sydd wedi ei seilio ar brisiau betio ar flog Ladbrokes.  Dwi methu postio linc yr eiliad hon oherwydd fy mod i ffwrdd ac yn gweithio efo 3G Vodafone.  Dydi'r system diogelwch ddim yn caniatau i mi gael mynediad i unrhyw beth i'w wneud efo betio. Mi ro i linc pan ga i hyd i fynediad WiFi.

Gweler yma

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi hyn - mae'n bosibl i brisiau betio fod yn fwy cywir na pholau piniwn mewn etholaethau unigol. Gan bod pobl yn mentro eu pres eu hunain wrth fetio maen nhw'n meddwl am y peth cyn betio.

 Yn ychwanegol - ac yn bwysicach efallai - mesur patrymau 'cenedlaethol' mae polau piniwn. Mae betio ar etholaeth yn fwy lleol - a felly cysact o lawer. Dwi'n meddwl bod edrych ar farchnadoedd betio yn ffordd rhesymol o gywir o ddarogan canlyniadau etholiad - ond dim ond tua'r diwedd pan mae swmiau sylweddol o bres wedi ei fetio - ac felly wedi gyrru'r prisiau. Mae'r prisiau sydd gennym ar hyn o bryd yn rhai sydd wedi eu gyrru gan fetio cymharol ysgafn - felly maen nhw'n llai defnyddiol na fyddan nhw mewn chwe neu saith mis.

 Mi fyddwn i hefyd yn nodi mai'r ffordd o wneud pres ar fetio gwleidyddol ydi betio yn erbyn barn y marchnadoedd betio - ac mae'n sicr yn bosibl gwneud pres felly - os ydi dyn yn gwybod yr hyn mae yn ei wneud.

Beth bynnag - dyma screenshot dwi wedi ei chymryd yn gynharach o ran o'r blogiad.  Mi ddof yn ol ambell waith tros y diwrnod neu ddau nesaf - pan fydda i'n cael munud neu ddau i fi fy hun - i drafod pa mor realistig ydi'r darogan isod mewn gwirionedd.

1 comment:

Alwyn ap Huw said...

Mae'n bwysig gochel rhag y camsyniad bod rhoi bet ar blaid yn ffordd o gefnogi'r blaid honno. Os am wella gobeithion Plaid Cymru i gadw Arfon, er enghraifft, gwell rhoi £5 i ymgyrch ail ethol Hywel Williams na rhoi £5 i Ladbrookes ar drwyn Hywel.