Friday, April 11, 2014

Defnydd o'r Gymraeg yn y Cynulliad

Dydi Blogmenai ddim yn ymateb i geisiadau am flogiadau ar bwnc arbennig yn aml iawn, ond cyn bod rhai o fy ffrindiau bach anhysbys yn codi record y Blaid o ran defnyddio'r Gymraeg yn y Cynulliad mi wna i eithriad.  Dwi wedi torri'r tablau isod o astudiaeth hynod drylwyr a defnyddiol Cymdeithas yr Iaith o'r pwnc - ac mae'n ddadlennol.

Mae cynrychiolwyr Plaid Cymru yn gwneud dwywaith cymaint o ddefnydd o'r iaith na phawb arall efo'i gilydd.  Oni bai am y Blaid llai na 4% o drafodaethau'r Cynulliad fyddai'n digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg.  Un aelod unoliaethol sy'n defnyddio'r iaith mwy na 50% o'r amser - Keith Davies, Llanelli.  Ychydig iawn o ddefnydd o'r Gymraeg mae siaradwyr cwbl rhugl fel Carwyn Jones, Gwenda Davies, Suzy Davies, Paul Davies, Mark Drakeford neu Leighton Andrews yn ei wneud.  Yn wir mae Leighton yn ymddangos i fod wedi rhoi'r gorau yn llwyr i ddefnyddio'r Gymraeg ers colli ei swydd fel Gweinidog Addysg.

Ydi hyn oll yn bwysig?  Wel ydi - wrth gwrs.  Mae'n hen bregeth sy'n cael ei chyfeirio at y Blaid na ddylai ystyried yr iaith yn rhywbeth sy'n perthyn yn arbennig iddi hi.  'Dwi'n meddwl bod hynny yn ddadl synhwyrol o safbwynt lles yr iaith.  Ond mae hefyd yn wir nad yw'n ymddangos bod aelodau'r pleidiau unoliaethol yn cymryd yr iaith o ddifri - neu o leiaf nid ydynt  ei chymryd yn ddifri i'r graddau eu bod yn fodlon gwneud defnydd cyhoeddus ohoni.  Bai yr unoliaethwyr ydi hynny, nid bai y Blaid.









3 comments:

Anonymous said...

Noder hefyd bod defnydd yr iaith gan Weinidogion y Llywodraeth yn ganlyniad i gwestiynnu gan ACau meinciau cefn, Plaid Cymru yn bennaf. Prin iawn y ceir cyhoeddiad gan weinidog trwy gyfrwng y Gymrawg, heblaw ei fod yn ymwneud a'r Gymraeg.

Anonymous said...

Wel ia - ag edrych ar bethau felly oni bai am Plaid Cymru a Keith Davies prin y byddai unrhyw Gymraeg i'w glywed yn y Cynulliad.

Anonymous said...

Sut bynnag ydan ni yn edrach ar betha mai dal yn ffaith drist mai 2% gyfrannodd arweinydd Plaid Cymru trwy gyfrwng y Gymraeg.