Y ffaith bod Plaid Cymru 'yn yr anialwch' yn dilyn etholiadau lleol Ynys Mon ydi thema ein cyfaill yr wythnos yma. Mae Gwil yn ymddangos yn hapus iawn bod Plaid Cymru yn y dywydedig anialwch, ac mae'n gwbl sicr ei farn mai'r rheswm am hynny ydi'r ffaith nad ydi'r Blaid mor ddi amwys frwdfrydig tros ynni niwclear nag ydi Gwil ei hun.
Rwan, mae'r dyn yn gywir nad ydi'r Blaid mewn grym - hi ydi'r wrthblaid a chyfuniad o bawb arall sy'n llywodraethu. Ond dydi bod yn brif wrthblaid ddim yn gyfystyr a bod mewn anialwch. Fel rydym wedi ei awgrymu eisoes mae sefyllfa felly yn cynnig cyfleoedd ar gyfer y dyfodol.
Ond rhywbeth mwy diddorol ydi pam bod Gwil yn gwneud cysylltiad rhwng ynni niwclear a phenderfyniad Llafur i fynd i glymblaid efo'r Annibyns, er taeru du yn wyn na fyddant yn gwneud y ffasiwn beth cyn diwrnod yr etholiad. Yn wir pan holwyd arweinydd y Blaid Lafur pam y daethanti'w penderfyniad ar Radio Cymru roedd ei ateb yn gwbl glir - doedd o ddim yn 'nabod llawer o'r pleidwyr newydd, ac roedd o'n ofn rhyw hen radicalaeth. Mae hyn yn crisialu gwleidyddiaeth draddodiadol Ynys Mon yn ddigon twt - rhaid peidio delio efo'r anghyfarwydd a rhaid osgoi radicaliaeth doed a ddelo. Er gwaethaf yr holl gelwydd y byddant yn newid pethau o gael eu hethol, mae'n ymddangos bod meddylfryd cynghorwyr Llafur Ynys Mon wedi ei angori'n soled ym nhraddodiad hen wleidyddiaeth Ynys Mon.
Ta waeth, mae Gwil yn llafurio efo'r argraff ei fod yn gwybod yn well na'r sawl wnaeth y penderfyniad pam y gwnaed y penderfyniad hwnnw. Pam? Wel dydw i ddim eisiau ymddwyn fel Gwil ei hun a smalio fy mod yn gwybod yn well nag unigolion beth maen nhw eu hunain yn ei feddwl. Serch hynny rydym yn gwybod nad ydi'r hen foi yn hoffi Leanne Wood (dim digon adnabyddus iddo a rhy radiacal da chi'n gweld) a'i fod yn hoff iawn o bwerdai niwclear. Dwi'n amau dim bod Gwil wedi edrych ymlaen yn arw at ganlyniadau'r etholiadau i weld y Blaid yn methu a'r Blaid Lafur yn llwyddo, ac wedi edrych ymlaen hyd yn oed mwy at gael priodoli hynny i'w annwyl orsaf niwclear. Ond och a gwae, pan ddaeth dydd y cyfrif cafodd plaid Gwil y stid fwyaf ofnadwy - er gwaethaf eu hymdrechion di ddiwedd i gysylltu eu hunain a'r syniad o godi ail orsaf ar Ynys Mon, tra bod y Blaid wedi llnau'r llawr efo nhw ym mron i pob twll a chornel o'r ynys. Felly dyna fynd ati i addasu'r naratif rhyw ychydig. Mor un llygeidiog ag ydi Gwilym, fedrai hyd yn oed fo ddim honni i'r Blaid wneud yn sal, felly dyna fynd ati i briodoli methiant i ennill grym yn hytrach na methiant i ennill fots i amwyster ynglyn a gorsaf niwclear ar Ynys Mon.
Ac wrth gwrs gan fod Gwil wedi penderfynu ar ei naratif cyn yr etholiad mae'n methu'n lan a sylwi ar yr eliffant mawr hyll ar y stepan drws - y gweir etholiadol anferth a gafodd Llafur ar yr ynys - ynys sydd yn cael ei chynrychioli gynddynt yn San Steffan. Mi lwyddodd hoff blaid Gwil i gael cweir yn ardaloedd trefol Mon hyd yn oed - methu a chadw eu sedd yn Nhwrcelyn, methu a dod o flaen John Arthur yng Nghanolbarth Mon, dod y tu ol i dri phleidiwr, dau Annibyn, dau Lib Dem yn Aethwy, gweld dau o'u hymgeiswyr yn dod y tu ol i UKIP yn Ynys Cybi a chael eu tri ymgeisydd ar waelod y pol yn Lligwy. Mae'n debyg mai hon oedd y gweir fwyaf i Lafur o holl etholiadau Cymru a Lloegr ar ddiwrnod yr etholiad - ac hynny mewn etholaeth San Steffan maent yn ei dal.
Ac mae Gwil wedi methu'r cyfan. Y mater sydd o arwyddocad iddo fo ydi bod llond crochan o Doriaid, Gombins, Llafurwyr, Lib Dems a Nimbis wedi dod at ei gilydd i gadw Plaid Cymru allan o rym. Dydi o ddim yn dangos unrhyw ymwybyddiaeth o gwbl o'r ffaith bod cryn draddodiad o glymblaid fel hyn yn dod at ei gilydd yn y Gorllewin - yn Sir Gaerfyrddin ac yn Sir Geredigion tan yn ddiweddar er enghraifft. A'r rheswm maen nhw'n dod at ei gilydd? Dim oll i'w wneud efo ynni niwclear wrth gwrs. Ond yn hytrach - ag aralleirio'r hyn ddywedodd  Arwel Roberts, arweinydd Llafur ar Gyngor Mon - maen nhw'n ofn yr anghyfarwydd, yn ofn yr hyn sy'n radical, yn ofn newid. Mae'n nhw'n gasgliad o geidwadwyr cul sy'n ofn unrhyw newid am eu bywydau.






